{"title":"1898-Present","description":"\u003cp\u003eLlyfrau wedi'u ysgrifennu'n wreiddiol ers 1989.\u003c\/p\u003e","products":[{"product_id":"gwynfyd","title":"Gwynfyd (Ian Parri)","description":"\u003cp\u003e\u003cem\u003e\"Ma' pob trefn ar 'i gwanaf pan fo 'na wrthdaro oddi fewn. Ma'n rhaid inni ddeffro'r genedl. Ma'r Orsedd yn eu twyllo. Ffug i gyd yw'r Chwyldro Cynganeddol, rhyw orchudd er mwyn 'yn ca'l ni gyd i'w col. A nawr yw'n cyfle ni. Nawr ne' fyth. Newyddiadurwyr 'yn ni i fod 'n'defe? Rhaid inni weithredu er mwyn i bobol ca'l byw mewn rhyddid unweth 'to. Sytha'r asgwrn cefn 'na da ti.\"\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eYr Ynys, dwy genhedlaeth ers y Chwyldro cynganeddol. Fel pawb arall, mae Maldwyn Tanat yn gwingo dan orthrwm yr Orsedd, ond yn mwynhau bywyd cymharol gyfforddus-hyd nes y daw'r cyfle un diwrnod iddo droi'n arwr digon cyndyn...\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eDyma nofel gyntaf Ian Parri. Cyfuniad unigryw o ddystopia ac abswrdiaeth, dyma weledigaeth hollol wahanol o'r traddodiad llenyddol Cymraeg sydd yn ddoniol, yn arswydus ac yn heriol yn ei thro.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\"Dystopia dychrynllyd yw thema Gwynfyd, ac mae'r byd wedi ei saernïo'n ofalus. Gyda phob cam, mae'r plot yn datgelu realaeth ofnadwy... Mae Gwynfyd yn nofel ddifyr a dychrynllyd, ac Ian Parri yn awdur sy'n gwybod sut i dynnu darllenydd i mewn i fyd stori.\"\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e-\u003cem\u003eManon Steffan Ros\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 173 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":48543446991180,"sku":"MB0018","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237208.jpg?v=1723130205"},{"product_id":"cyd-ddyheu_ai_cododd_hi","title":"Cyd-ddyheu a'i Cododd Hi: Hanes y Blaid Lafur yng Nghymru","description":"\u003cp\u003eA hithau wedi dominyddu Gwleidyddiaeth Cymru ers dechrau’r ugeinfed ganrif, y Blaid Lafur Gymreig yw un o’r pleidiau gwleidyddol fwyaf llwyddiannus mewn unrhyw wlad, ac mae ganddi ran hollol ganolog yn hanes Cymru dros y ganrif a hanner ers ei sefydlu. Mae gan Gymru ei hun lle hynod bwysig yn hanes y Blaid Lafur, gan mai yng Nghymru yr enillodd y Blaid ei buddugoliaethau etholaethol cyntaf, a Chymru fu ei chadarnle hynaf a chryfaf erioed.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eSerch hynny, cyn nawr ni fu ymdrech i olrhain a chrynhoi hanes cyflawn y Blaid Lafur yng Nghymru yn yr Iaith Gymraeg, o’i rhagflaenwyr ymysg Cristnogion sosialaidd fel Robert Owen drwy at fuddugoliaethau ffurfiol cyntaf y blaid ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, cyfnodau cythryblus mewn llywodraeth ac fel gwrthblaid, a'i chyfnodau o lwyddiant ac o fethiant yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif. Telir sylw teilwng i ffigyrrau Cymreig blaenllaw'r blaid ac i’r cwestiynau hynny oedd o ddiddordeb neilltuol iddynt megis datganoli a'r Iaith Gymraeg. \u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cstrong\u003eD. Ben Rees\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003c\/strong\u003ewedi bod yn weithgar gyda’r Blaid Lafur ers y 1950au ac eisoes wedi cyhoeddi bywgraffiadau i amrywiaeth o unigolion ag iddynt ran flaenllaw yn y gyfrol hon, fel Cledwyn Hughes a Jim Griffiths.\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 216 o dudalennau.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":48778154869068,"sku":"MB0022","price":10.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237284.jpg?v=1727386178"},{"product_id":"ceir-ac-anifeiliaid-helle-helle","title":"Ceir ac Anifeiliaid (Helle Helle)","description":"\u003cp\u003eMenyw ifanc yn lladd amser ym mhriodas dieithriaid wrth aros am y bws nesaf. Hiraeth am y gŵr a’r plant a gollodd yn llethu gwraig. Pwmpen y mae angen ei chyffeithio’n droi’n ormes ar wraig arall. Merch ifanc ar drothwy newid byd. Trobwyntiau bywyd, posibiliadau newydd. Dechrau ym mhob diwedd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cstrong\u003eHelle Helle\u003c\/strong\u003e yw un o brif lenorion cyfoes Denmarc. Mae ei gwaith yn darlunio digwyddiadau cyffredin bob-dydd o bersbectif benywaidd. Arddull gynnil, finimalaidd sy’n ei nodweddu. Ond mae’r mân-donnau ar wyneb y llyn yn bradychu cynnwrf ar y gwaelod.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eY casgliad hwn o un-ar-bymtheg o’i straeon byrion, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2000, yw un o’r gweithiau cyntaf erioed i gael ei gyfieithu o’r Ddaneg i’r Gymraeg. Nid yw eto wedi’i gyfieithu i’r Saesneg. Mae’r cyfieithydd, \u003cstrong\u003eRichard Crowe\u003c\/strong\u003e, yn siarad nifer o ieithoedd ac wedi gweithio fel cyfieithydd proffesiynol i Lywodraeth Cymru; hwn, fodd bynnag, yw ei gyfieithiad cyntaf o gyfrol o ryddiaith greadigol.\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cstrong\u003eEr gwyb cwsmeriaid yn y DU\u003c\/strong\u003e: Caiff y llyfr hwn ei argraffu ar alw a bydd archebion sy'n ei gynnwys yn cymryd ychydig ddiwrnodau ychwanegol i gyrraedd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 112 o dudalennau.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52375649485132,"sku":"MB0028","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237420.jpg?v=1744811372"},{"product_id":"shinanin-siarad","title":"Shinani'n Siarad (Eve Ensler)","description":"\u003cp\u003ePan ysgrifennwyd a llwyfannwyd\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cem\u003eThe Vagina Monologues\u003c\/em\u003e\u003cspan\u003e\u0026nbsp;Eve Ensler\u0026nbsp;\u003c\/span\u003eam y tro cyntaf yn 1996, fe’i croesawyd fel un o’r dramâu mwyaf beiddgar a thrawiadol am ddegawdau. Yn seiliedig ar gyfres o gyfweliadau a gynhaliwyd gyda nifer o ferched, mae’r gyfres hon o ymsonau - sydd yn eu tro’n ddoniol, yn flysig, yn frawychus, neu’n dorcalonnus - yn ddathliad o rywioldeb merched yn ogystal ag yn ergyd wleidyddol ffeministaidd yn erbyn trais.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eCyfieithwyd y ddrama i’r Gymraeg gan\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cstrong\u003eSharon Morgan\u003c\/strong\u003e\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003ea’i llwyfannu yn 2004 gyda chymeradwyaeth Eve, dan y teitl\u0026nbsp;\u003cem\u003eShinani'n Siarad, \u003c\/em\u003ea mynd â hi ar daith o amgylch Cymru; ond dim ond nawr, ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae hi’n cael ei chyhoeddi am y tro cyntaf un.\u003cbr\u003e\u0026nbsp;\u003cbr\u003e“Theatr ar ei orau - sioe bwysig, digyfaddawd a doniol tu hwnt.” \u0026nbsp;-\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cem\u003eAni Glass\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cstrong\u003eAm bob llyfr a werthir, bydd cyfraniad o £1.00 yn cael ei wneud at Gymorth i Ferched Cymru (Rhif Elusen Cofrestredig 1140962).\u003c\/strong\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur 6\"x9\", 112 o dudalennau gyda lluniau.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52375749820748,"sku":"MB0029","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237437.jpg?v=1744812130"},{"product_id":"cyswllt-jadwiga-grabos","title":"Cyswllt (Jadwiga Graboś)","description":"\u003c!-- x-tinymce\/html --\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eTarddodd \u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003eCyswllt\u003c\/em\u003e o angen i siarad am bethau sy’n cael eu gwthio i ymylon bywyd cymdeithasol, o angen i chwilio am ddealltwriaeth ac i ymgynefino â phwnc anabledd. Dyma lyfr sy’n bwriadu datgelu’r emosiynau a’r diymadferthwch y mae rhieni a gofalwyr plant gydag anableddau yn eu wynebu. Gwëwyd y cerddi o gariad ac anobaith, siom, bliner, a’r grym mewnol sy’n helpu rhywun cludo baich pob diwrnod. Un nod pwysig sydd iddynt: meithrin gobaith y gall pethau fod yn well os ydyn ni’n dofi ofn arwahanrwydd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eDyma gyfrol unigryw sy'n cyfuno celf wreiddiol gan Diana Lipa, barddoniaeth a defnydd bwriadol o wacter i greu profiad darllen bur wahanol i'r arfer.\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eMae \u003cstrong data-mce-fragment=\"1\"\u003eJadwiga Graboś \u003c\/strong\u003eyn ysgrifennu cerddi, rhyddiaith a chaneuon. Ers 2019, mae wedi cyhoeddi tair chyfrol o farddoniaeth ac mae ei cherddi wedi ymddangos mewn blodeugerddi a chylchgronau llenyddol yng Ngwlad Pwyl, a chafodd rhai eu cyfieithu i Lithwaneg. Enillodd ei thrydedd gyfrol, Cyswllt, y brif wobr yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Llyfr Llenyddol Gwreiddiol Świdnica 2023. Graddiodd mewn \u0026nbsp;Almaeneg a’r Gyfraith o Brifysgol Maria Curie-Skłodowska yn Lublin ac Astudiaethau Llenyddol a Chelfyddydol o’r Brifysgol Jagiellonaidd yng Nghracof. Mae hi’n byw yn Lublin ac yn gweithio yno fel athrawes ysgol uwchradd. Mae’n ymddiddori mewn theatr, ffilm, cerddoriaeth a chelfyddyd. Ar hyn o bryd, mae hi’n astudio paentio yn Academi Celfyddydau Cain Cracof. Mae ganddi bedwar o blant.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eMae \u003cstrong data-mce-fragment=\"1\"\u003eMarta Listewnik \u003c\/strong\u003eyn ddarlithydd Cymraeg a llenyddiaeth Gymreig ym Mhrifysgol Adam Mickiewicz yn Poznań. Mae wedi cyfieithu pedair nofel Gymraeg i’r Bwyleg a’u cyhoeddi ers 2017. Hwn, fodd bynnag, yw ei chyfieithiad cyhoeddedig cyntaf i’r Gymraeg.\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eClawr caled, 76 o dudalennau gyda darluniau lliw.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52664785928524,"sku":"MB0030","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/978191723744.jpg?v=1749454645"},{"product_id":"llanllenorion-mary-burdett-jones","title":"Llanllenorion (Mary Burdett-Jones)","description":"\u003cp\u003eNofel yw hon am gyhoeddwr o Lundain sy’n symud i Gymru i brofi dyfnder ei wreiddiau.\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMewn tref brifysgol ar lan y môr mae’n ceisio cyngor ystod o gymeriadau: yr ysgolhaig sydd wedi ymroi i’w waith ar draul agweddau eraill ar ei fywyd; y wraig sydd wedi aberthu llawer\u0026nbsp;\u003cbr\u003eyn ei thro wrth ddod yn gymar iddo; yr athro sydd bellach yn ddeallusyn cyhoeddus; yr actores y mae yntau’n briod iddo; a’r arlunydd y mae ei gwaith i’w weld yn nhai’r dref.\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eOnd beth yw union natur y berthynas rhwng y bobl hyn?\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eNofel gyntaf Mary-Burdett Jones yw hon. Dyma waith heriol, arloesol, wedi’i gweu o’r presennol, y gorffennol a’r dyfodol, ac o freuddwydion a barddoniaeth.\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003e‘Dyma waith sylweddol iawn. Mae’n tynnu’r darllenydd yn ei flaen oherwydd yr annisgwyl ddieithr yn y rhediad tra amrywiol.’\u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e- Bobi Jones\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 166 o dudalennau.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":56496120627532,"sku":"MB0055","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237727_e165784e-3cbf-424b-a2f8-a201e705923c.jpg?v=1768480805"},{"product_id":"scribblertown-mary-burdett-jones","title":"Scribblertown (Mary Burdett-Jones)","description":"\u003cp\u003e(Sylwer: Dyma gyfieithiad Saesneg yr awdur. Am y Cymraeg gwreiddiol, gweler\u0026nbsp;\u003cem\u003e\u003ca href=\"https:\/\/melinbapur.cymru\/products\/llanllenorion-mary-burdett-jones\"\u003eLlanllenorion\u003c\/a\u003e\u003c\/em\u003e).\u003cbr\u003e\u003cbr\u003eNofel yw hon am gyhoeddwr o Lundain sy’n symud i Gymru i brofi dyfnder ei wreiddiau.\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMewn tref brifysgol ar lan y môr mae’n ceisio cyngor ystod o gymeriadau: yr ysgolhaig sydd wedi ymroi i’w waith ar draul agweddau eraill ar ei fywyd; y wraig sydd wedi aberthu llawer\u0026nbsp;\u003cbr\u003eyn ei thro wrth ddod yn gymar iddo; yr athro sydd bellach yn ddeallusyn cyhoeddus; yr actores y mae yntau’n briod iddo; a’r arlunydd y mae ei gwaith i’w weld yn nhai’r dref.\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eOnd beth yw union natur y berthynas rhwng y bobl hyn?\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eNofel gyntaf Mary-Burdett Jones yw hon. Dyma waith heriol, arloesol, wedi’i gweu o’r presennol, y gorffennol a’r dyfodol, ac o freuddwydion a barddoniaeth.\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003e‘Dyma waith sylweddol iawn. Mae’n tynnu’r darllenydd yn ei flaen oherwydd yr annisgwyl ddieithr yn y rhediad tra amrywiol.’\u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e- Bobi Jones\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 166 o dudalennau.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57608684732748,"sku":"MB0061","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237901.jpg?v=1779452236"},{"product_id":"an-atheist-christian-gunslinger-jerry-hunter","title":"An Atheist Christian Gunslinger (Jerry Hunter) (PRE-ORDER)","description":"\u003cp\u003e\u003cem\u003e\u003cstrong\u003eSYLWERR: \u003c\/strong\u003eTudalen ragarchebu yw hon i er mwyn archebu'r llyfr hwn, fydd ar gael ar 12fed Mehefin.\u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e\u003cbr\u003eNofel Saesneg gyntaf yr athro Jerry Hunter, awdur\u0026nbsp;\u003cem\u003eEbargofiant\u003c\/em\u003e, \u003cem\u003eY Fro Dywyll \u003c\/em\u003eac\u0026nbsp;\u003cem\u003eYnys Fadog\u003c\/em\u003e.\u003cem\u003e\u003cbr\u003e\u003cbr\u003eAl I herd wɘz that familyer yelin. Maga maga maga maga.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eSet in a dystopian future many years after The End of Elections, everything is run by The Company and the State. Seth Hibard, a sludge farmer who lives in Hill Country, leads a life full of quiet contradictions. He is in turns shy and talkative, outgoing and awkward, and though not religious himself, he has a loving relationship with his very Christian wife, Jayn, with whom he shares a fondness for the Godly Stories, including one about Seth's biblical namesake. Seth is also fond however of an old book from before the End of Elections, \u003c\/span\u003e\u003cem\u003eAn Atheist Christian Gunslinger,\u0026nbsp;\u003c\/em\u003e\u003cspan\u003ewhich speaks to a more violent side of his nature that he has kept in check.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eBut when his intolerant neighbors start harassing migrant farm workers who have settled in the area, Seth finds himself taking a stand. He knows that, one way or the other, more blood will be spilled.\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eSeth's story cannot be separated from the language he uses to tell it. He records the spiraling violence in his own unique way, his dialect and way of writing being integral parts of the world into which the reader is thrust. It is a world at once familiar and strange, a place where the basest of human impulses are set against a simple man's desire to do good.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003eI rekin thangz did git a litl betr beefor they went and got a hol lot wors egin.\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003eI rekin I need tɘ ad that I treyd tɘ play mey part in that ordr ɘv thanzs tu.\u0026nbsp;\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eJerry Hunter was born and raised in Cincinnati, Ohio and lives in Wales. He has published six novels in Welsh. One of the major Welsh-language novelists of the twenty-first century, this is his first novel in his native language.\u003cbr\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e“Groundbreaking, impactful and brilliant work. I truly loved this.”\u003cbr\u003eManon Steffan Ros, author of \u003cem\u003eThe Blue Book of Nebo\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 144 o dudalennau.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57608854700364,"sku":"MB0062","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/pre-order.jpg?v=1780558918"}],"url":"https:\/\/melinbapur.cymru\/cy\/collections\/1898-present.oembed","provider":"Llyfrau Melin Bapur Books","version":"1.0","type":"link"}