{"title":"Dwyfor a Meirionnydd","description":"\u003cp\u003eLlyfrau Cymraeg gan awduron o Ben Llŷn, Eifionydd a Meirionydd.\u003c\/p\u003e","products":[{"product_id":"plant-y-gorthrwm-gwyneth-vaughan","title":"Plant y Gorthrwm (Gwyneth Vaughan)","description":"\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003e“'Dylai mamau y wlad ofalu am fagu eu bechgyn o’u babandod gyda syniadau teilwng am eu mamau a’u chwiorydd,' ebe y pregethwr.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003e'Onid gwaith anodd iawn yw i fachgen barchu ei fam pan nad yw\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003emewn uwch sefyllfa na chader neu fwrdd yn y tŷ, neu, os mynnwch,\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003eun o’r anifeiliaid oddi allan?\"\u003c\/em\u003e\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003eY flwyddyn yw 1868 ac am y tro cyntaf mae cyfran fawr o ddynion Cymru'n cael pleidleisio mewn etholiad. Ond mewn oes pan oedd pleidleisio'n gyhoeddus, beth fydd y canlyniadau i'r sawl sy'n bwrw pleidlais dros ryddid a chyfiawnder ac yn erbyn y drefn?\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003eWedi'i hysgrifennu'n wreiddiol yn 1905, \u003cem\u003ePlant y Gorthrwm\u003c\/em\u003e oedd ail nofel Gwyneth Vaughan ac hon o'i holl nofelau yw'r mwyaf gwleidyddol, a'r un sy'n dadlau gryfaf dros\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003ebawb sy'n cael cam: boed hynny oherwydd eu daliadau, eu dosbarth cymdeithasol, eu cenedl neu eu rhywedd. Dyma un o nofelau mawr ei chyfnod yn yr iaith Gymraeg, gan awdures sy'n haeddu ei chyfri ymhlith awduron blaenaf yr iaith.\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e\"Deil [nofelau Gwyneth Vaughan] gymhariaeth â llawer ystori a fu'n dra llwyddiannus yn Lloegr, a rhagorant y tu hwnt i gymhariaeth ar y chwedlau Saesneg am Gymru a\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003eysgrifennwyd gan Saeson neu Gymry Seisnig.\"\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e—T. Gwynn Jones\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eClawr Papur, 328 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":47986884215116,"sku":"MB0010","price":12.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237086.jpg?v=1712935821"},{"product_id":"cysgodau-y-blynyddoedd-gynt-gwyneth-vaughan","title":"Cysgodau y Blynyddoedd Gynt (Gwyneth Vaughan)","description":"\u003cp\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003e“I'r hen Gymry gynt, un o arwyddion y nefoedd ydoedd, yn dangos y dyfodol iddynt. Os byddai'r goleuni yn wyn, disgwylient hwy ddiwygiad crefyddol grymus, ond os goleuni coch fyddai, yna heb os nac oni bai: rhyfel oedd yn arwyddocau.\"\u003c\/em\u003e\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003eSgweier cyfrwys sy'n ceisio rhwydo'r bonheddwr ifanc; y ferch ifanc sy'n hiraethu ar ôl ei chariad; yr etifeddes ddiniwed sy'n wystl i gynlluniau ei thad; yr ysbrydion rhyfedd sy'n rheibio'r plwyf; y blaenor call; yr hen wraig ofergoelus; ac wrth gwrs, y Sipswn, sy'n cyslltu'r rhain i gyd gyda'i gilydd—ac sydd â llawer mwy iddynt na'r golwg... \u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003eWedi'i hysgrifennu'n wreiddiol yn 1907, \u003cem\u003eCysgodau y Blynyddoedd Gynt\u003c\/em\u003e oedd trydedd nofel Gwyneth Vaughan ac mae'n ymddangos yma ar ffurf cyfrol am y tro cyntaf erioed, a gyda rhagymadrodd gan Rosanne Reeves, cofiannydd Gwyneth Vaughan. Yn y nofel hon cawn hanes dirgelwch a rhagrith, goddefgarwch a maddeuant; ond gyda'r nofel hon hefyd cofnododd Gwyneth Vaughan ystod helaeth o ofergoelion a thraddodiadau Cymry'r gorffennol, o'r Aderyn Corff i gyfarfodydd barddonol. \u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e\"Mae ymddiddan y bobl gyffredin yn ddiddanwch pur. Maent mor naturiol ac mor Gymreig...\" —Mari Ellis\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\"Deil [nofelau Gwyneth Vaughan] gymhariaeth â llawer ystori a fu'n dra llwyddiannus yn Lloegr, a rhagorant y tu hwnt i gymhariaeth ar y chwedlau Saesneg am Gymru a\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003eysgrifennwyd gan Saeson neu Gymry Seisnig.\"\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e—T. Gwynn Jones\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr Papur, 340 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":47987021021516,"sku":"MB0011","price":12.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781739440398.jpg?v=1712935890"},{"product_id":"dinistr-jerusalem-a-cherddi-eraill-eben-fardd","title":"Dinistr Jerusalem a Cherddi Eraill (Eben Fardd)","description":"\u003cp\u003e\u003cem\u003eLlithrig yw'r palmant llathrwyn\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003eMôr gwaed ar y marmor gwyn.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eEben Fardd oedd enw barddol adnabyddus Ebenezer Thomas (1802-1863). Yn enedigol o Lanarmon, Gwynedd, gweithiodd fel athro mewn nifer o ysgolion yn Eifionydd a Llŷn, ac mewn mân swyddi eraill.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eRoedd ei ddiddordeb mewn barddoniaeth yn amlwg o'n gymharol ifanc, a daeth ei lwyddiant eisteddfodol cyntaf yn 1824 pan enillodd cadair Eisteddfod Powys yn y Trallwng, gyda'i awdl\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cem\u003eDinistr Jerusalem\u003c\/em\u003e, ei gerdd fwyaf ac enwocaf. Daeth llwyddiannau niferus eraill iddo mewn eisteddfodau rhanbarthol dros y degawdau nesaf; roedd hefyd yn emynydd o fri. Bu farw ond ychydig flynyddoedd ar ôl sefydlu'r Eisteddfod Genedlaethol ac nid enillodd yr un o brif wobrau'r sefydliad hwnnw, er iddo gystadlu'n aflwyddiannus yn Eisteddfod 1862 gyda'i awdl\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cem\u003eY Flwyddyn\u003c\/em\u003e.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eEben Fardd oedd un o feirdd Cymraeg mwyaf a phwysicaf ei oes. Roedd yn feistr ar y gynghanedd, ac yng ngeiriau Thomas Parry, \"gellir dweud fod ynddo fwy o anianawd y gwir fardd nag odid neb o feirdd eisteddfodol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.\" Gwelir yn ei waith cynnar uchafbwynt clasuriaeth ddisgrifiadol y Gymraeg, ac yn ei waith diweddarach dechrau Rhamantiaeth.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae'r detholiad hwn o'i waith yn cynnwys tair o'i awdlau eisteddfodol a rhyw ddau ddwsin o gerddi byrrach yn adlewyrchu doniau'r bardd o Eifionydd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 136 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51786329981260,"sku":"MB0025","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237352_3d4372e2-7b23-4ec3-9fb3-e039bb0dfaca.jpg?v=1773225838"},{"product_id":"y-llaw-gudd","title":"Y Llaw Gudd (E. Morgan Humphreys)","description":"\u003cp\u003e\u003cem\u003e\"O'r gorau,\" meddai. \"Un garw ydach chi, hefyd. Ond fe fydd yn well i Aubrey ac i Gwynn edrych ati hi.\"\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003e\"Pe buasai rhyw ddamwain anffodus yn digwydd i'r ddau,\" meddai Morley yn sychlyd, \"buasai'n beth gofidus iawn.\"\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003e\"Gobeithio'r gorau,\" meddai Elston, ac ar hynny\u003c\/em\u003e\u003cem\u003ecerddodd y ddau i'r tŷ.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae'n debyg mai John Aubrey, creadigaeth E. Morgan Humphreys, yw'r ditectif llenyddol Cymraeg cynharaf i ymddangos dros gyfres o straeon. Ymddangosodd mewn pedair antur - un nofel a thair nofelig - dros gyfnod o saith mlynedd ar hugain, ac mae'r gyfrol hon yn dwyn y tair nofelig ynghyd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eYn \u003cem\u003eY Llaw Gudd\u003c\/em\u003e (1924), cawn ddirgelwch ditectif traddodiadol gyda gwedd Gymreig wrth i Aubrey ymchwilio i lofruddiaeth ffermwr yn y cefn gwlad. Ymchwilio i ddiflaniad sydyn gŵr busnes y mae yn \u003cem\u003eCeulan y Llyn Du\u003c\/em\u003e (1944) cyn cael ei sugno i mewn i gynllwyn dialgar, ac yn \u003cem\u003eLlofrudd yn y Chwarel\u003c\/em\u003e (1951) mae ar drywydd ffoadur peryglus. Roedd y tair stori yma'n gyfraniadau pwysig i lenyddiaeth drosedd yn y Gymraeg.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 234 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":56951451124044,"sku":"MB0058","price":10.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237840.jpg?v=1773226816"},{"product_id":"dirgelwch-gallt-y-ffrwd","title":"Dirgelwch Gallt y Ffrwd (E. Morgan Humphreys)","description":"\u003cp\u003e\u003cem\u003eAc yna daeth sŵn arall, sŵn gwyliadwrus, araf, sŵn y buasai'n hawdd i ddyn oedd heb fod yn gwrando fethu ei glywed... Yr oedd ffenestr y stydi yn agor yn araf. Ac yna, tra gwrandawai, clywai sŵn rhywun yn dyfod i mewn.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003e\"Daliwch eich dwylo i fyny!\" meddai Aubrey, yn uchel, gan daflu drws y stydi yn llydan agored â'i droed a goleuo'r fflachell fawr a ddaliai yn ei law chwith. Yn ei law dde yr oedd ei refolfer yn barod i waith...\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eAr ôl ei anfon i ardal dawel ar lan y môr ar drywydd carreg werthfawr a ladratwyd ar ochr arall y byd, caiff y ditectif enwog John Aubrey ei dynnu i mewn i gynllwyn cymhleth yn dilyn darganfod corff dyn lleol yn farw.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eCyn pen dim caiff ei hun yng nghanol helynt lle na all ymddiried yn neb, ac yn wynebu gelynion annelwig sy'n berffaith barod i ladd eto.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eYr ail stori am y ditectif John Aubrey, cyhoeddwyd\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cem\u003eDirgelwch Gallt y Ffrwd\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003eyn wreiddiol yn 1938. Nofel hiraf a mwyaf uchelgeisiol ei hawdur, roedd hi'n garreg filltir yn hanes y nofel drosedd a'r nofel antur yn Gymraeg.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 232 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":56951499981132,"sku":"MB0059","price":10.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237826.jpg?v=1773227050"}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/collections\/Dwyfor_a_Meirionydd.jpg?v=1790065130","url":"https:\/\/melinbapur.cymru\/cy\/collections\/dwyfor-a-meirionnydd.oembed","provider":"Llyfrau Melin Bapur Books","version":"1.0","type":"link"}