{"title":"Môn ac Arfon","description":"\u003cp\u003eLlyfrau Cymraeg gan lenorion o Ynys Môn ac o Arfon.\u003c\/p\u003e","products":[{"product_id":"madam-wen-w-d-owen","title":"Madam Wen (W. D. Owen)","description":"\u003cp\u003e\u003cem\u003e\u003cspan\u003eTeimlai Morys fod y goleuni’n ymadael, a nos yn dyfod i’w fywyd ar drawiad llygad. “Yr ydych wedi eich dyweddïo?” meddai, yn fwy wrtho’i hun nac wrthi hi.\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003e\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\u003cspan\u003e“Wedi fy nyweddïo, fy nghâr, nid i ddyn ond i adduned. Pan oedd fy annwyl dad yn marw mewn tlodi, gwneuthum adduned y buaswn yn mynnu ennill yn ôl y tir a ladratawyd oddi arnom gan ein gelynion, ac nid ydyw’r adduned eto wedi ei chyflawni.”\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eSir Fôn, y ddeunawfed ganrif. Mae’r grŵp o ladron penffordd yn ymosod ar yr Yswain ifanc Morys William a dwyn swm nid bach o arian oddi arno. Caiff wybod mai pennaeth y lladron lleol yw Madam Wen, cymeriad y mae\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003edirgelwch yn ei chanlyn i bobman. \u0026nbsp;Yn y cyfamser, wrth ymweld ag ystâd y Penrhyn mae Morys yn cwrdd ag Einir Wyn, merch brydferth sydd wedi tyngu llw y bydd yn adennill y tiroedd a ddygwyd oddi ar ei thad.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003e\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003cspan\u003ePwy yw Madam Wen? Menyw, neu ddrychiolaeth? Lleidr, neu arwres? Person o gig a gwaed, neu’n ddim byd ond sibrwd ar goll yn sŵn y tonnau?\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eNofel W. D. Owen am ladron penffordd, dirgelwch, cleddyfa, smyglwyr, gwisgoedd ffug, Jacobiniaid, môr-ladron a serch yw nofel antur Gymraeg orau ei oes ac yn Madam Wen ei hun cawn un o gymeriadau mwyaf hynaws llenyddiaeth Gymraeg. Addaswyd y nofel yn ffilm ar S4C yn 1982. Mae’r argraffiad newydd hwn, y cyntaf ers 99 o flynyddoedd, yn cyflwyno’r antur i ddarllenwyr o’r newydd mewn orgraff ddiwygiedig.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e\"Mr. Owen provides us with a good yarn, for which, in this all too sombre world, we owe him thanks. This is the kind of Welsh book we want: a breathless tale that insists upon being real.\"\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003e\u003cspan\u003e—Liverpool Daily Post\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr Papur, 202 o dudalennau.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":47720284193100,"sku":"MB0006","price":10.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781739440374_f2b417d8-20c1-4f7a-9fe1-8d7cff95e026.jpg?v=1712740318"},{"product_id":"llio-plas-y-nos","title":"Llio Plas y Nos (R. Silyn Roberts)","description":"\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003e“...noson oedd hon i lenwi’r ofnus â braw. Symudai cysgodion y cymylau ar hyd wyneb y ddaear, a newidiai cysgodion brigau’r coed i bob ffurf a llun dan gernodiau ffyrnig gwynt y gorllewin. Awgrymai’r cysgodion ansicr eu dawns bresenoldeb ellyllon a drychiolaethau i’r dychymyg; a swniai’r gwynt trwy’r brigau a’r glaswellt fel rhuthr lleng o ysbrydion anweledig yng ngolau gwan, gwelw’r lloer; cymerai pethau cyffredin ffurfiau annaturiol, a hawdd i feddwl dyn oed llithro i stad freuddwydiol ac ofnus, ac ymlenwi â hanesion dychrynllyd am ffyrdd a llwybrau lle y cyniweiria ysbrydion anesmwyth eu byd.”\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003eAr eu gwyliau yng Nyffryn Llifon, mae Gwynn Morgan a'i gyfaill, y Ffrancwr Ivor Bonnard, yn clywed sibrydion am yr hen adfail rhyfedd, Plas y Nos, ac yn dysgu am hanes arswydus y lle. Wedi iddynt fynd i'w archwilio, mae ar Ivor eisiau gwybod rhagor. Tybed, mewn gwirionedd, ai cyd-ddigwyddiad yw hi eu bod ill dau yno?\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003eStori ddirgelwch gyffrous sy'n cyfleu elfennau o syniadaeth rhamantaidd ei hawdur, cyhoeddwyd Llio Plas y Nos gyntaf yn 1906 a'i hail-gyhoeddi ddwywaith yn yr 1940au. Mae'r argraffiad newydd hon mewn orgraff ddiwygiedig yn cyflwyno'r nofel o'r newydd i ddarllenwyr heddiw.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eClawr papur, 124 o dudalennau.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":47720309096780,"sku":"MB0007","price":4.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781739440312.jpg?v=1708447193"},{"product_id":"chwalfa-t-rowland-hughes","title":"Chwalfa (T. Rowland Hughes)","description":"\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003e\"Wyddwn i ddim 'i fod o wedi gyrru'i enw i mewn.\"\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003eNid oedd ond un ystyr i'r geiriau, a chododd Edward Ifans ei olwg yn reddfol tua'r cerdyn ar y silff-ben-tân.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003e\"Nid oes Bradwr yn y tŷ\u0026nbsp;hwn,\" meddai'n chwerw wrtho'i hun.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eMae hi'n droad yr ugeinfed ganrif, ac yn chwarel pentref Llechwedd ym mro Chwarelyddol Gogledd Cymru mae'r gweithwyr, yn sgil gwrthdaro hir gyda'r perchnogion wedi penderfynu sefyll allan yn y gobaith y caent gwell tâl ac amodau a gweld diwedd i system nepotistaidd y\u0026nbsp;\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003eContractors\u003c\/em\u003e.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Ond wrth i'r misoedd fynd rhagddynt heb ddim golwg ar ddiwedd i'r streic, fe rwygir y gymuned yn ddarnau fesul teulu wrth i'r Bradwyr troi eu cefnau ar eu cyfeillion a dychwelyd i'r chwarel, ac wrth i eraill adael y fro i chwilio am fywyd gwell yn y Sowth.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eUn o nofelau mawr yr iaith Gymraeg, dyma argraffiad newydd hwn o nofel hanesyddol bwerus T. Rowland Hughes sy'n croniclo effaith Streic Fawr Chwarel y Penrhyn ym Methesda o 1900-03.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eGyda rhagymadrodd newydd gan Elin Gwyn.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eClawr papur, 300 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":48542490296652,"sku":"MB0017","price":12.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237215.jpg?v=1723114250"},{"product_id":"gwynfyd","title":"Gwynfyd (Ian Parri)","description":"\u003cp\u003e\u003cem\u003e\"Ma' pob trefn ar 'i gwanaf pan fo 'na wrthdaro oddi fewn. Ma'n rhaid inni ddeffro'r genedl. Ma'r Orsedd yn eu twyllo. Ffug i gyd yw'r Chwyldro Cynganeddol, rhyw orchudd er mwyn 'yn ca'l ni gyd i'w col. A nawr yw'n cyfle ni. Nawr ne' fyth. Newyddiadurwyr 'yn ni i fod 'n'defe? Rhaid inni weithredu er mwyn i bobol ca'l byw mewn rhyddid unweth 'to. Sytha'r asgwrn cefn 'na da ti.\"\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eYr Ynys, dwy genhedlaeth ers y Chwyldro cynganeddol. Fel pawb arall, mae Maldwyn Tanat yn gwingo dan orthrwm yr Orsedd, ond yn mwynhau bywyd cymharol gyfforddus-hyd nes y daw'r cyfle un diwrnod iddo droi'n arwr digon cyndyn...\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eDyma nofel gyntaf Ian Parri. Cyfuniad unigryw o ddystopia ac abswrdiaeth, dyma weledigaeth hollol wahanol o'r traddodiad llenyddol Cymraeg sydd yn ddoniol, yn arswydus ac yn heriol yn ei thro.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\"Dystopia dychrynllyd yw thema Gwynfyd, ac mae'r byd wedi ei saernïo'n ofalus. Gyda phob cam, mae'r plot yn datgelu realaeth ofnadwy... Mae Gwynfyd yn nofel ddifyr a dychrynllyd, ac Ian Parri yn awdur sy'n gwybod sut i dynnu darllenydd i mewn i fyd stori.\"\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e-\u003cem\u003eManon Steffan Ros\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 173 tudalen.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cstrong\u003eDS cwsmeriaid yn y DU\u003c\/strong\u003e: Caiff y llyfr hwn ei argraffu ar alw a bydd archebion sy'n ei gynnwys yn cymryd ychydig ddiwrnodau ychwanegol i gyrraedd.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":48543446991180,"sku":"MB0018","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237208.jpg?v=1723130205"},{"product_id":"y-tlawd-hwn-casgliad-o-gerddi-w-j-gruffydd","title":"Y Tlawd Hwn: Casgliad o Gerddi (W. J. Gruffydd)","description":"\u003cp\u003e\u003cem\u003e\"Fe ddaw eu tro'n ddiogel - ond pa waeth?\u003cbr\u003eNi leddfir tinc y chwerthin melys rhydd;\u003cbr\u003eNi ddelir adain maboed un yn gaeth\u003cbr\u003eWrth gofio am drueni'r meirwon prudd,\u003cbr\u003eA'u dwylo'n groesion, yn eu gwely gro.\"\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eWilliam John Gruffydd oedd un o ffigurau cyhoeddus mwyaf blaenllaw'r byd Cymraeg yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Roedd yn un o ysgolheigion\u0026nbsp;mwyaf dylanwadol ei oes ym maes llenyddiaeth Gymraeg, yn olygydd papur newydd\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cem\u003eY Llenor\u003c\/em\u003e\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003eam ddegawdau, a bu'n enwog hefyd am ei gystadleuaeth wybyddol a gwleidyddol gyda Saunders Lewis, a ddaeth i'w hanterth yn ystod isetholiad sedd Prifysgol Cymru yn 1943, a enillwyd gan Gruffydd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eFel bardd, fodd bynnag, daeth Gruffydd i'r amlwg yn gyntaf, a hynny'n llanc ugain oed pan gyhoeddwyd\u0026nbsp;\u003cem\u003eTelynegion\u003c\/em\u003e, ei gydweithrediad gydag R. Silyn Roberts. Ystyrir ef o hyd yn un o feirdd mawr y dadeni mewn barddoniaeth Cymraeg ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, ac er bod detholiadau lawer wedi'u gwneud o'i waith, y gyfrol hon yw'r ymgais cyntaf i gasglu ynghyd holl weithiau barddonol cyhoeddedig y bardd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 226 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51979561533772,"sku":"MB0027","price":10.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237390.jpg?v=1739782881"},{"product_id":"o-law-i-law-t-rowland-hughes","title":"O Law i Law (T. Rowland Hughes)","description":"\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003e“Gwyddwn yn fy nghalon mai dyma’r tro olaf y gwelid fy nhad yn y chwarel, a syllais dros y Neidr i gyfeiriad y ffordd y gwelswn F’ewythr Huw arni ar fy niwrnod cyntaf yn y gwaith. Do, aethai ugain mlynedd a mwy heibio er hynny, ond ni newidiasai’r blynyddoedd fawr ddim ar gadernid anferth y chwarel oddi tanaf. Rhoesant fwy o greithiau ar ei hwyneb, efallai, a dyfnhau’r archollion yn ei mynwes, ond arhosai hi o hyd mor ddigyffro a di-hid ag erioed.”\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eWedi marw ei rieni, mae John Davies, chwarelwr canol oed, yn clirio eu tŷ, drwy werthu eu heiddo ‘o law i law’ i’w gymdogion. Dyma greiriau ei fywyd: fesul gwerthiant neu rodd mae’n hel atgofion melys a chwerw am ei fywyd a’i fagwraeth, ei berthynas gyda’i rieni a’i ewythr, a’r gymdeithas mae’n rhan ohoni.\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eRoedd T. Rowland Hughes eisoes yn adnabyddus fel cynhyrchydd radio a phrifardd adeg cyhoeddi O Law i Law, ei nofel gyntaf; ond bu’r\u0026nbsp;nofel hon a'r\u0026nbsp;rhai\u0026nbsp;a’i dilynodd yn llwyddiannau ysgubol ddaeth â bri ac enwogrwydd i’w hawdur na phrofasai’r un nofelydd Cymraeg ers Daniel Owen. O Law i Law yw’r tawelaf a’r mwynaf o’i nofelau, a’r un sy’n dwyn y mwyaf o’i deunydd o fywyd y nofelydd ei hun.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eClawr papur, 226 o dudalennau.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52909021954380,"sku":"MB0042","price":10.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237543.jpg?v=1752140672"},{"product_id":"william-jones-t-rowland-hughes","title":"William Jones (T. Rowland Hughes)","description":"\u003cp\u003e\u003cem\u003e\"O, Northman, ifa?\"\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\"Ia, o Lan-y-graig... Sir Gaernarfon.\"\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\"Shwd ma' petha'n dishgwl yn y chwareli 'na nawr?\"\u003cbr\u003e\"Y?\"\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\"Shwd ma' petha'n mynd yn y chwareli lan 'na?\"\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\"O, go lew, wir.\"\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\"Gwd, w. Ma'n dwym 'eddi'.\"\u003cbr\u003e\"Y?\"\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\"Hoil twym?\"\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\"Ydi, wir.\" Hyderai William Jones iddo roi'r ateb cywir.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eWedi alaru o'r diwedd ar fywyd gyda Leusa, ei wraig ddiog ac anserchus, mae'r chwarelwr addfwyn William Jones yn ei heglu hi i'r 'Sowth' i fyw at ei chwaer a'i theulu ym Mryn Glo. Ond mae'r dirwasgiad yn effeithio o hyd ar y cwm, ac nid oes gwaith i'w gael yn unman. Fodd bynnag, er na chaiff hyd i waith, caiff William Jones hyd i lawer o bethau pwysicach.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eComedi cymdeithasol â themâu dwys am berthyn a chyfrifoldeb, yr ail o nofelau T. Rowland Hughes oedd William Jones, ac un o'r mwyaf poblogaidd. Fel pob un ohonynt mae'n dwyn elfennau o fywyd Hughes ei hun, y tro yma fel gŵr o fro chwareli'r gogledd a symudodd i fyw i gymoedd y de.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 346 o dudalennau.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":53398188589388,"sku":"MB0051","price":12.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237642_7776684b-2ab0-49f1-8f41-f2beb31da994.jpg?v=1758275741"},{"product_id":"caniadau-john-morris-jones","title":"Caniadau (John Morris-Jones)","description":"\u003cdiv class=\"WordSection1\"\u003e\n\u003cp style=\"margin-left: 42.55pt; text-indent: -1.0cm;\" class=\"PreformattedText\"\u003e\u003cem\u003e\u003cspan style=\"mso-ansi-language: CY;\" lang=\"CY\"\u003e“Henaint ni ddaw ei hunan”;—daw ag och\u003cbr\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan style=\"mso-ansi-language: CY;\" lang=\"CY\"\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\u003cspan style=\"mso-ansi-language: CY;\" lang=\"CY\"\u003e\u0026nbsp; \u0026nbsp; Gydag ef, a chwynfan,\u003cbr\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\u003cspan style=\"mso-ansi-language: CY;\" lang=\"CY\"\u003eAc anhunedd maith weithian,\u003cbr\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\u003cspan style=\"mso-ansi-language: CY;\" lang=\"CY\"\u003eA huno maith yn y man.\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp style=\"margin-left: -1cm; text-indent: 0cm; text-align: left; padding-left: 40px;\" align=\"center\" class=\"MsoNormal\"\u003e\u003cspan style=\"mso-bidi-font-size: 12.0pt; mso-fareast-font-family: SimSun; mso-bidi-font-family: Garamond; mso-bidi-language: AR-SA;\" lang=\"CY\"\u003eYn rhinwedd ei waith mewn meysydd academaidd, John Morris-Jones (1864-1929) yw un o ffigurau pwysicaf hanes llenyddiaeth Gymraeg, ac roedd yn rhan allweddol o’r dadeni a welwyd mewn barddoniaeth Gymraeg ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp style=\"margin-left: -1cm; text-indent: 0cm; text-align: left; padding-left: 40px;\" align=\"center\" class=\"MsoNormal\"\u003e\u003cspan style=\"mso-bidi-font-size: 12.0pt; mso-fareast-font-family: SimSun; mso-bidi-font-family: Garamond; mso-bidi-language: AR-SA;\" lang=\"CY\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cspan style=\"mso-bidi-font-size: 12.0pt; mso-fareast-font-family: SimSun; mso-bidi-font-family: Garamond; mso-bidi-language: AR-SA;\" lang=\"CY\"\u003eEr yr ystyrir ei farddoniaeth yn llai pwysig na’i waith mewn meysydd eraill, roedd \u003ci\u003eCaniadau\u003c\/i\u003e, yr unig gyfrol o gerddi a gyhoeddodd, yn ddylanwadol iawn yn ei ddydd ac yn rhan allweddol o’i ymgyrch i wella safonau ieithyddol a barddonol ei gyd-Gymry. Mae’n cynnwys ei delynegion enwog fel ‘Cwyn y Gwynt’\u003ci\u003e \u003c\/i\u003eynghyd â’i englynion a’i awdlau. Roedd hefyd yn gyfieithydd medrus o farddoniaeth ieithoedd eraill ac mae’r rhain hefyd yn rhan bwysig o’r \u003ci\u003eCaniadau\u003c\/i\u003e, gan gynnwys ‘Penillion Omar Khayyâm’\u003ci\u003e, \u003c\/i\u003eenghraifft brin o gyfieithiad i’r Gymraeg o waith llenyddol o’r tu allan i Ewrop.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003c\/div\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 184 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":56490003792204,"sku":"MB0053","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237710.jpg?v=1768396605"},{"product_id":"y-colledig-straeon-cyfrol-i-r-hughes-williams","title":"Y Colledig: Straeon Cyfrol I (R. Hughes Williams)","description":"\u003cdiv class=\"WordSection1\"\u003e\n\u003cdiv class=\"WordSection1\"\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003eAmser blin y chwarelwr yw y gaeaf...\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eRoedd Richard Hughes Williams (1878-1919) yn un o awduron rhyddiaith blaenllaw ei oes yn yr iaith Gymraeg. Gwnaeth ei gyfraniad mwyaf sylweddol fel awdur straeon byrion, ac yn y maes hwnnw ystyrir ef yn arloeswr oedd yn ddylanwad sylweddol ar awduron diweddarach. Bu’n byw mewn sawl lle gwahanol yn rhinwedd ei yrfa fel newyddiadurwr, ond roedd yn enedigol o bentref Rhosgadfan, ac \u0026nbsp;fe gysylltir ef yn annatod gyda bro chwarelyddol Gwynedd, sy’n gefndir i’w straeon mwyaf adnabyddus.\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eCyhoeddwyd casgliadau o’i straeon mewn llyfrau yn 1914 ac yn 1916; ychwanegwyd at y rhain mewn cyfrolau diweddarach ar ôl ei farwolaeth. Mae’r casgliad newydd hwn yn dwyn holl straeon y cyfrolau hyn ynghyd â rhai newydd nad ydynt wedi ymddangosodd mewn llyfr cyn nawr.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003eEfe oedd y cyntaf i edrych ar [y Stori Fer] o ddifrif.\u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e—Kate Roberts\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003eNi fu’r stori fer Gymraeg yr un fath wedi iddo ef weithio arni. \u003c\/em\u003e\u003cem\u003eNi allai fod.\u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e—E. Morgan Humphreys\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003c\/div\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 180 o dudalennau.\u003c\/p\u003e\n\u003c\/div\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57644223005004,"sku":"MB0063","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237888.jpg?v=1779893842"}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/collections\/Mon_ac_Arfon.jpg?v=1790064847","url":"https:\/\/melinbapur.cymru\/cy\/collections\/mon-arfon.oembed","provider":"Llyfrau Melin Bapur Books","version":"1.0","type":"link"}