{"title":"Nofelau Hir","description":"\u003cp\u003eNofelau sydd iddynt o leiaf 300 o dudalennau.\u003c\/p\u003e","products":[{"product_id":"plant-y-gorthrwm-gwyneth-vaughan","title":"Plant y Gorthrwm (Gwyneth Vaughan)","description":"\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003e“'Dylai mamau y wlad ofalu am fagu eu bechgyn o’u babandod gyda syniadau teilwng am eu mamau a’u chwiorydd,' ebe y pregethwr.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003e'Onid gwaith anodd iawn yw i fachgen barchu ei fam pan nad yw\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003emewn uwch sefyllfa na chader neu fwrdd yn y tŷ, neu, os mynnwch,\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003eun o’r anifeiliaid oddi allan?\"\u003c\/em\u003e\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003eY flwyddyn yw 1868 ac am y tro cyntaf mae cyfran fawr o ddynion Cymru'n cael pleidleisio mewn etholiad. Ond mewn oes pan oedd pleidleisio'n gyhoeddus, beth fydd y canlyniadau i'r sawl sy'n bwrw pleidlais dros ryddid a chyfiawnder ac yn erbyn y drefn?\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003eWedi'i hysgrifennu'n wreiddiol yn 1905, \u003cem\u003ePlant y Gorthrwm\u003c\/em\u003e oedd ail nofel Gwyneth Vaughan ac hon o'i holl nofelau yw'r mwyaf gwleidyddol, a'r un sy'n dadlau gryfaf dros\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003ebawb sy'n cael cam: boed hynny oherwydd eu daliadau, eu dosbarth cymdeithasol, eu cenedl neu eu rhywedd. Dyma un o nofelau mawr ei chyfnod yn yr iaith Gymraeg, gan awdures sy'n haeddu ei chyfri ymhlith awduron blaenaf yr iaith.\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e\"Deil [nofelau Gwyneth Vaughan] gymhariaeth â llawer ystori a fu'n dra llwyddiannus yn Lloegr, a rhagorant y tu hwnt i gymhariaeth ar y chwedlau Saesneg am Gymru a\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003eysgrifennwyd gan Saeson neu Gymry Seisnig.\"\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e—T. Gwynn Jones\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eClawr Papur, 328 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":47986884215116,"sku":"MB0010","price":12.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237086.jpg?v=1712935821"},{"product_id":"cysgodau-y-blynyddoedd-gynt-gwyneth-vaughan","title":"Cysgodau y Blynyddoedd Gynt (Gwyneth Vaughan)","description":"\u003cp\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003e“I'r hen Gymry gynt, un o arwyddion y nefoedd ydoedd, yn dangos y dyfodol iddynt. Os byddai'r goleuni yn wyn, disgwylient hwy ddiwygiad crefyddol grymus, ond os goleuni coch fyddai, yna heb os nac oni bai: rhyfel oedd yn arwyddocau.\"\u003c\/em\u003e\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003eSgweier cyfrwys sy'n ceisio rhwydo'r bonheddwr ifanc; y ferch ifanc sy'n hiraethu ar ôl ei chariad; yr etifeddes ddiniwed sy'n wystl i gynlluniau ei thad; yr ysbrydion rhyfedd sy'n rheibio'r plwyf; y blaenor call; yr hen wraig ofergoelus; ac wrth gwrs, y Sipswn, sy'n cyslltu'r rhain i gyd gyda'i gilydd—ac sydd â llawer mwy iddynt na'r golwg... \u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003eWedi'i hysgrifennu'n wreiddiol yn 1907, \u003cem\u003eCysgodau y Blynyddoedd Gynt\u003c\/em\u003e oedd trydedd nofel Gwyneth Vaughan ac mae'n ymddangos yma ar ffurf cyfrol am y tro cyntaf erioed, a gyda rhagymadrodd gan Rosanne Reeves, cofiannydd Gwyneth Vaughan. Yn y nofel hon cawn hanes dirgelwch a rhagrith, goddefgarwch a maddeuant; ond gyda'r nofel hon hefyd cofnododd Gwyneth Vaughan ystod helaeth o ofergoelion a thraddodiadau Cymry'r gorffennol, o'r Aderyn Corff i gyfarfodydd barddonol. \u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e\"Mae ymddiddan y bobl gyffredin yn ddiddanwch pur. Maent mor naturiol ac mor Gymreig...\" —Mari Ellis\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\"Deil [nofelau Gwyneth Vaughan] gymhariaeth â llawer ystori a fu'n dra llwyddiannus yn Lloegr, a rhagorant y tu hwnt i gymhariaeth ar y chwedlau Saesneg am Gymru a\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003eysgrifennwyd gan Saeson neu Gymry Seisnig.\"\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e—T. Gwynn Jones\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr Papur, 340 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":47987021021516,"sku":"MB0011","price":12.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781739440398.jpg?v=1712935890"},{"product_id":"chwalfa-t-rowland-hughes","title":"Chwalfa (T. Rowland Hughes)","description":"\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003e\"Wyddwn i ddim 'i fod o wedi gyrru'i enw i mewn.\"\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003eNid oedd ond un ystyr i'r geiriau, a chododd Edward Ifans ei olwg yn reddfol tua'r cerdyn ar y silff-ben-tân.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003e\"Nid oes Bradwr yn y tŷ\u0026nbsp;hwn,\" meddai'n chwerw wrtho'i hun.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eMae hi'n droad yr ugeinfed ganrif, ac yn chwarel pentref Llechwedd ym mro Chwarelyddol Gogledd Cymru mae'r gweithwyr, yn sgil gwrthdaro hir gyda'r perchnogion wedi penderfynu sefyll allan yn y gobaith y caent gwell tâl ac amodau a gweld diwedd i system nepotistaidd y\u0026nbsp;\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003eContractors\u003c\/em\u003e.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Ond wrth i'r misoedd fynd rhagddynt heb ddim golwg ar ddiwedd i'r streic, fe rwygir y gymuned yn ddarnau fesul teulu wrth i'r Bradwyr troi eu cefnau ar eu cyfeillion a dychwelyd i'r chwarel, ac wrth i eraill adael y fro i chwilio am fywyd gwell yn y Sowth.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eUn o nofelau mawr yr iaith Gymraeg, dyma argraffiad newydd hwn o nofel hanesyddol bwerus T. Rowland Hughes sy'n croniclo effaith Streic Fawr Chwarel y Penrhyn ym Methesda o 1900-03.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eGyda rhagymadrodd newydd gan Elin Gwyn.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eClawr papur, 300 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":48542490296652,"sku":"MB0017","price":12.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237215.jpg?v=1723114250"},{"product_id":"bronwen","title":"Bronwen (Beriah Gwynfe Evans)","description":"\u003cp style=\"font-weight: 400;\" data-mce-fragment=\"1\" data-mce-style=\"font-weight: 400;\"\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003e“Ond eto un gair. A ydyw y telerau hyn yr wyt ti er dy anrhydedd, Syr Frenin, yn caniatáu i ni, yn gyfyngedig i ni ein chwech, neu ynte, a awdurdodir ni i’w cludo ar flaenau ein gwaywffyn, yn ôl i’n gwersyll, ac yno i’w cyhoeddi yng wyneb haul, llygad goleuni, i bob Cymro yn ddieithriaid?”\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp style=\"font-weight: 400;\" data-mce-fragment=\"1\" data-mce-style=\"font-weight: 400;\"\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003e“Gydag ond un eithriad,” ebe’r brenin.\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp style=\"font-weight: 400;\" data-mce-fragment=\"1\" data-mce-style=\"font-weight: 400;\"\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003e“A’r un hwnnw?” gofynnai y Marchog.\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp style=\"font-weight: 400;\" data-mce-fragment=\"1\" data-mce-style=\"font-weight: 400;\"\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003e“GLYNDŴR!” oedd yr ateb...\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp style=\"font-weight: 400;\" data-mce-fragment=\"1\" data-mce-style=\"font-weight: 400;\"\u003e\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003eMynyddoedd y Berwyn, 1400. Mae’r cadben dieflig Syr Philip Marglee wedi’i anfon gan ei arglwydd, de Grey, i feddiannu darn o dir ei gymydog. Ychydig a ŵyr neb mai’r sgarmes fechan hon fydd dechrau gwrthryfel a fydd yn llyncu’r holl wlad.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp style=\"font-weight: 400;\" data-mce-fragment=\"1\" data-mce-style=\"font-weight: 400;\"\u003e\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003eBeriah Gwynfe Evans (1848-1927) oedd un o Gymry llengar mwyaf gweithgar ei oes. Ysgrifennodd nifer fawr o nofelau yn y Gymraeg a’r Saesneg, llawer ohonynt yn portreadu digwyddiadau a chyfnodau o hanes ei wlad mewn ymgais bwriadol i efelychu yn y cyd-destun Gymreig yr hyn yr oedd Walter Scott wedi’i wneud yn yr Alban gyda’i gyfres o nofelau hanesyddol.\u0026nbsp;\u003cem\u003eBronwen, \u003c\/em\u003esy'n dwyn yr isdeitl 'Chwedl Hanesyddol am Owain Glyndŵr',\u003cem\u003e\u0026nbsp;\u003c\/em\u003eoedd ei nofel gyntaf ac mae'n bodoli mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg; y fersiwn Cymraeg yw hwn.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp style=\"font-weight: 400;\" data-mce-fragment=\"1\" data-mce-style=\"font-weight: 400;\"\u003e\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003eClawr papur, 316 o dudalennau.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":53007308554572,"sku":"MB0046","price":12.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237536.jpg?v=1753716127"},{"product_id":"william-jones-t-rowland-hughes","title":"William Jones (T. Rowland Hughes)","description":"\u003cp\u003e\u003cem\u003e\"O, Northman, ifa?\"\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\"Ia, o Lan-y-graig... Sir Gaernarfon.\"\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\"Shwd ma' petha'n dishgwl yn y chwareli 'na nawr?\"\u003cbr\u003e\"Y?\"\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\"Shwd ma' petha'n mynd yn y chwareli lan 'na?\"\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\"O, go lew, wir.\"\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\"Gwd, w. Ma'n dwym 'eddi'.\"\u003cbr\u003e\"Y?\"\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\"Hoil twym?\"\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\"Ydi, wir.\" Hyderai William Jones iddo roi'r ateb cywir.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eWedi alaru o'r diwedd ar fywyd gyda Leusa, ei wraig ddiog ac anserchus, mae'r chwarelwr addfwyn William Jones yn ei heglu hi i'r 'Sowth' i fyw at ei chwaer a'i theulu ym Mryn Glo. Ond mae'r dirwasgiad yn effeithio o hyd ar y cwm, ac nid oes gwaith i'w gael yn unman. Fodd bynnag, er na chaiff hyd i waith, caiff William Jones hyd i lawer o bethau pwysicach.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eComedi cymdeithasol â themâu dwys am berthyn a chyfrifoldeb, yr ail o nofelau T. Rowland Hughes oedd William Jones, ac un o'r mwyaf poblogaidd. Fel pob un ohonynt mae'n dwyn elfennau o fywyd Hughes ei hun, y tro yma fel gŵr o fro chwareli'r gogledd a symudodd i fyw i gymoedd y de.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 346 o dudalennau.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":53398188589388,"sku":"MB0051","price":12.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237642_7776684b-2ab0-49f1-8f41-f2beb31da994.jpg?v=1758275741"},{"product_id":"marged-t-glynne-davies","title":"Marged (T. Glynne Davies)","description":"\u003cp\u003e\u003cem\u003e“Fel hyn yr oedd bywyd wedi bod: fel hyn y byddai am hanner canrif wedyn nes i’r Rhyfel Mawr roi sgytiad i bawb a phopeth a throi’r dreflan fach unwaith eto yn rhan o’r byd mawr o’i chwmpas.\"\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003ePan aiff Marged Rowland at yr hen Sera Cesi i gael dweud ei ffortiwn, ychydig a ŵyr y graddau y bydd darogan y wrach honno’n rhagfynegi gweddill ei bywyd – ei pherthynas gyda’i gŵr, Ifan, a ffawd ei phlant, Gruff, Lora a Robat-jon.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eRhamant, trasiedi, rhyfela – mae'r nofel epig hon, un o'r mwyaf erioed yn Gymraeg, yn gyforiog ohonynt, ond mae yma hefyd ysgafnder a dychan, ac yn fwy na dim mae yma hanes: hanes Llanrwst ar droad yr ugeinfed ganrif, hanes chwalfa gymdeithasol y Rhyfel Byd Cyntaf, a hanes y werin Gymraeg mewn cyfnod cythryblus.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMarged oedd ail nofel y llenor a’r newyddiadurwr adnabyddus T. Glynne Davies (1926-1988), ac fe’i croesawyd adeg ei chyhoeddi’r tro cyntaf yn 1974 fel datblygiad o bwys hanesyddol i’r nofel Gymraeg. Cyflwyna’r argraffiad hwn olygiad cwbl newydd gan Peredur Glyn – ŵyr yr awdur – i gynulleidfa newydd ei mwynhau.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 486 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57100076908876,"sku":"MB0060","price":14.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237864.jpg?v=1774620941"}],"url":"https:\/\/melinbapur.cymru\/cy\/collections\/nofelau-hir.oembed","provider":"Llyfrau Melin Bapur Books","version":"1.0","type":"link"}