{"title":"Gostyngiadau","description":"\u003cp\u003eLlyfrau gydag ostyngiadau ar hyn o bryd. Bargenion i'w cael!\u003c\/p\u003e","products":[{"product_id":"gorchest-gwilym-bevan","title":"Gorchest Gwilym Bevan (T. Gwynn Jones)","description":"\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003e“Roedd llais torcalonnus Mrs. Tomos, a’i geiriau gwylltion, ‘Dacw fo’r dyn starfiodd fy ngŵr i; i lawr â fo!’ yn swnio yn eu clustiau’n barhaus...”\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eMae iselder Gwilym Bevan wedi'i drechu, ac mae ar fin taflu’i hun i ddyfroedd y Tafwys pan gaiff ei achub gan ddieithryn, a chael ail gyfle ar fywyd. Dychwela i Gymru a chael gwaith yn y chwarel; a diolch i’w ddysg a’i hyfedredd caiff ei benodi’n arweinydd gan ei gyd-weithwyr. Ond buan iawn ymddengys cymylau anghydfod a gormes ar y gorwel.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eBu trydedd nofel T. Gwynn Jones yn garreg filltir yn hanes y nofel Gymraeg, ac ymhlith y nofelau Cymreig cynharaf i drafod anghydfod diwydiannol ac iechyd meddwl.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e“Golygfa lle mae’r haearn yn mynd i enaid ydyw.” \u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e —\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003eCymru\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e“Nofel ag iddi neges gymdeithasol a gwleidyddol... nofel sosialaidd sy’n ymgyrchu o blaid hawliau’r gweithwyr... Caffaeliad mawr i dwf a datblygiad y nofel Gymraeg oedd nofelau cynnar T. Gwynn Jones.” \u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e —\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003eAlan Llwyd\u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eSylwer: Dyma fersiwn Cymraeg (gwreiddiol) y nofel. Os yn chwilio am y cyfieithiad Saesneg, gweler\u0026nbsp;\u003cem\u003e﻿The Great Deed of Gwilym Bevan.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eClawr papur, 182 o dudalennau.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":47560736801100,"sku":"MB0002","price":3.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781739440343.jpg?v=1707678560"},{"product_id":"bugail-geifr-lorraine-emile-souvestre","title":"Bugail Geifr Lorraine (Émile Souvestre)","description":"\u003cp\u003e\u003cstrong\u003e\u003cem\u003eCyfieithiad Cymraeg gan R. Silyn Roberts\u003c\/em\u003e\u003c\/strong\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003e\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\u003cspan\u003e“Trysori’r tair ceiniog a roddasai Jeanne iddo a wnâi efe, a chadw ei chyngor yn ei gof. Hynny oedd am ei fod yntau hefyd wedi ei fagu ymhlith y gwerinos hyn na feddent ddim namyn mamwlad y dymunent ei chadw; yntau er yn fore wedi arfer caru ei bobl yn well nag ef ei hun, a gasâi â’i holl reddfau iau’r tramorwr, ac a fynnai gadw, â phris ei fywyd o bai raid, bethau hanfodol y genedl, sef y brenin, y faner, a saint gwarcheidiol Ffrainc.”\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003eFfrainc, y 1420au. Mae’r Ffrancod a’r Saeson wedi bod yn brwydro dros oruchafiaeth am ddegawdau, gan droi pob cornel o’r wlad yn faes brwydr. Bugail digon di-nod yw Remy nes i farwolaeth ei dad arwain at ddarganfyddiad annisgwyl am ei orffennol ef ei hun. Gyda’i fentor, y mynach Cyrille, mae Remy’n cychwyn ar daith i hawlio’i etifeddiaeth; ar yr un pryd daw sibrydion am yr arwres newydd Jeanne D’Arc, sy’n bwriadu erlid y Saeson o’r wlad unwaith ac am byth. \u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003eCyhoeddwyd Bugail Geifr Lorraine, cyfieithiad Silyn o nofelig hanesyddol Emile Souvestre Le Chevrier de Lorraine, yn wreiddiol yn 1925; mae’r argraffiad newydd hwn mewn orgraff fodern yn cyflwyno’r antur gyffrous hon i ddarllenwyr o’r newydd.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003eClawr papur, 96 o dudalennau.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":47711860818252,"sku":"MB0005","price":5.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781739440350.jpg?v=1708446379"},{"product_id":"llio-plas-y-nos","title":"Llio Plas y Nos (R. Silyn Roberts)","description":"\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003e“...noson oedd hon i lenwi’r ofnus â braw. Symudai cysgodion y cymylau ar hyd wyneb y ddaear, a newidiai cysgodion brigau’r coed i bob ffurf a llun dan gernodiau ffyrnig gwynt y gorllewin. Awgrymai’r cysgodion ansicr eu dawns bresenoldeb ellyllon a drychiolaethau i’r dychymyg; a swniai’r gwynt trwy’r brigau a’r glaswellt fel rhuthr lleng o ysbrydion anweledig yng ngolau gwan, gwelw’r lloer; cymerai pethau cyffredin ffurfiau annaturiol, a hawdd i feddwl dyn oed llithro i stad freuddwydiol ac ofnus, ac ymlenwi â hanesion dychrynllyd am ffyrdd a llwybrau lle y cyniweiria ysbrydion anesmwyth eu byd.”\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003eAr eu gwyliau yng Nyffryn Llifon, mae Gwynn Morgan a'i gyfaill, y Ffrancwr Ivor Bonnard, yn clywed sibrydion am yr hen adfail rhyfedd, Plas y Nos, ac yn dysgu am hanes arswydus y lle. Wedi iddynt fynd i'w archwilio, mae ar Ivor eisiau gwybod rhagor. Tybed, mewn gwirionedd, ai cyd-ddigwyddiad yw hi eu bod ill dau yno?\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cspan data-mce-fragment=\"1\"\u003eStori ddirgelwch gyffrous sy'n cyfleu elfennau o syniadaeth rhamantaidd ei hawdur, cyhoeddwyd Llio Plas y Nos gyntaf yn 1906 a'i hail-gyhoeddi ddwywaith yn yr 1940au. Mae'r argraffiad newydd hon mewn orgraff ddiwygiedig yn cyflwyno'r nofel o'r newydd i ddarllenwyr heddiw.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eClawr papur, 124 o dudalennau.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":47720309096780,"sku":"MB0007","price":4.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781739440312.jpg?v=1708447193"},{"product_id":"the-great-deed-of-gwilym-bevan-t-gwynn-jones","title":"The Great Deed of Gwilym Bevan (T. Gwynn Jones)","description":"\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cem\u003e“No, they'll kill me too. Shh, here they come, they're breaking down the door. Oh, have mercy, have mercy, save me!\"\u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e\u003cem\u003e\"So you're scared of dying? Flee then, run for your life!\"\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eMae iselder Gwilym Bevan wedi'i drechu, ac mae ar fin taflu’i hun i ddyfroedd y Tafwys pan gaiff ei achub gan ddieithryn, a chael ail gyfle ar fywyd. Dychwela i Gymru a chael gwaith yn y chwarel; a diolch i’w ddysg a’i hyfedredd caiff ei benodi’n arweinydd gan ei gyd-weithwyr. Ond buan iawn ymddengys cymylau anghydfod a gormes ar y gorwel.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eBu trydedd nofel T. Gwynn Jones yn garreg filltir yn hanes y nofel Gymraeg, ac ymhlith y nofelau Cymreig cynharaf i drafod anghydfod diwydiannol ac iechyd meddwl. Mae'r cyfieithiad Saesneg newydd hwn\u0026nbsp;yw'r cyntaf erioed o nofel gan T. Gwynn Jones i ymddangos ar ffurf cyfrol.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e“Golygfa lle mae’r haearn yn mynd i enaid ydyw.” \u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e —\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003eCymru\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e“Nofel ag iddi neges gymdeithasol a gwleidyddol... nofel sosialaidd sy’n ymgyrchu o blaid hawliau’r gweithwyr... Caffaeliad mawr i dwf a datblygiad y nofel Gymraeg oedd nofelau cynnar T. Gwynn Jones.” \u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e —\u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003eAlan Llwyd\u003cbr\u003e\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003eSylwer: Dyma'r cyfieithiad Saesneg o'r nofel. Am y nofel Gymraeg wreiddiol, gweler\u0026nbsp;\u003cem\u003eGorchest Gwilym Bevan\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eClawr papur, 198 o dudalennau.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":47921496523084,"sku":"MB0009","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237000.jpg?v=1712065826"},{"product_id":"gwilym-a-benni-bach-w-llewelyn-williams","title":"Gwilym a Benni Bach (W. Llewelyn Williams)","description":"\u003cp\u003e\u003cem\u003e\u003cspan\u003e“Odi lesu Grist ddim yn folon gneud beth i ni am iddo neud?” gofynnai Benni.\u003cbr\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\u003cspan\u003e“O odi, gwlei,” atebai Gwilym gan synfyfyrio.\u003cbr\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\u003cspan\u003e“Wel, pam odd e’n gellwn i ni lychu’n dillad?” meddai Benni.\u003cbr\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\u003cspan\u003eNi ddaeth atebiad Gwilym ar unwaith. \u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\u003cspan\u003eAr ôl eiliad neu ddwy o betruster, \u003cbr\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003e\u003cspan\u003e“Benni Bach?” meddai. “Mi agores i’n llyged wrth weddïo.”\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003e\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003cspan\u003eAr ôl bod i ffwrdd am nifer o yn astudio, mae meddyg ifanc yn dychwelyd adref i'w fro enedigol yn Nyffryn Tywi ac yn cwrdd am y tro cyntaf â'i ddau nai ifanc, Gwilym a Benni—Benni Bach, i ddefnyddio enw pawb amdano. \u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eCawn bortread hoffus a llawn o'r ddau fachgen wrth i ni eu dilyn yn tyfu, chwarae, breuddwydio, mynd i'r ysgol, ymweld ag Abertawe: thrwyddynt hefyd cawn bortread o lencyndod yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin yn ystod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn enwedig ei thafodiaith. \u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eYn wleidydd, newyddiadurwr, cyfreithiwr a hanesydd amatur, William Llewelyn Williams hefyd oedd ymhlith y nofelwyr Cymraeg cyntaf o Dde Cymru. Ef oedd yr Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin o 1906 i 1918.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eClawr papur, 109 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":48203866472780,"sku":"MB0012","price":4.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237130.jpg?v=1717058914"},{"product_id":"inmitten-der-nacht-angharad-tomos","title":"Inmitten der Nacht (Angharad Tomos)","description":"\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003c!-- x-tinymce\/html --\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e(Cyfieithiad Almaeneg o nofel Angharad Tomos,\u0026nbsp;\u003cem\u003eWele'n Gwawrio \/ translation into German of Angharad Tomos's Welsh-language novel of 1997, Wele'n Gwawrio\u003c\/em\u003e)\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eEnnyd, 39, Malerin und sprachpolitische Aktivistin, will das neue Jahrtausend auf dem Gipfel des Snowdon begrüßen. Inmitten der Ausflugsvorbereitungen erleidet sie einen Herzinfarkt und stirbt. Doch damit ist ihre Geschichte noch nicht zu Ende. Sie berichtet, wie sie langsam erkennt, dass sie tot ist, und wie die Menschen um sie herum darauf reagieren - einschließlich ihrer bunt gewürfelten Clique von Freunden, die ihre ganz eigenen Wege finden, ihrer Zuneigung Ausdruck zu verleihen...\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eDie walisische Originalausgabe gewann 1997 die Prosamedaille des Eisteddfod Genedlaethol, des nationalen Kulturfestivals von Wales. Aus dem Walisischen von Marika Fußer.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\"Noch nie zuvor bin ich in einem Buch so lebendigen und interessanten Charakteren begegnet.\" \u003cem\u003eIslwyn Ffowc Elis\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cpre dir=\"ltr\" data-ved=\"2ahUKEwj06pnj3dqGAxXjaEEAHSY1BtgQ3ewLegQIBRAU\" aria-label=\"Translated text\" id=\"tw-target-text\" data-placeholder=\"Translation\" class=\"tw-data-text tw-text-large tw-ta\"\u003e\u003cspan lang=\"de\" class=\"Y2IQFc\"\u003eTaschenbuch, 170 Seiten\u003c\/span\u003e\u003c\/pre\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":48278963454284,"sku":"MB0015","price":4.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237161.jpg?v=1718036104"},{"product_id":"selma-merbaum-cerddi-1939-1941","title":"Selma Merbaum: Cerddi 1939-1941","description":"\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003c!-- x-tinymce\/html --\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003e“Rwyf am fyw...\u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e\u003cem\u003eRwyf am chwerthin...\u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e\u003cem\u003eac ymladd a charu a chasáu...\u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e\u003cem\u003eNid wyf am farw. Na.”\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eGaned Selma Merbaum yn Czernowitz (heddiw Chernivtsi yn Wcráin) ym 1924. Bu farw o deiffws ym 1942 yng ngwersyll llafur Mikhailowka a reolwyd gan yr SS. Medrai Selma Almaeneg, Iddeweg a Rwmaneg, ond yn Almaeneg ysgrifennodd ei cherddi.\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eAr ôl cyhoeddi \u003cem\u003eBlütenlese\u003c\/em\u003e (‘Cynhaeaf Blodau’) yn Israel ym 1976, dechreuwyd cymryd diddordeb yn ei cherddi yn yr Almaen, ac fe’i dilynwyd gan gyfieithiadau i Iddeweg, Hebraeg, Saesneg, Iseldireg, Sbaeneg, Wcraineg, ac nawr i’r Gymraeg.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae’r cyfieithiad Cymraeg hwn o’r casgliad cyflawn gan Mary Burdett-Jones yn gosod y cerddi yn y drefn y cawsant eu hysgrifennu fel bod modd olrhain datblygiad llais barddonol y bardd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr Papur, 100 tudalen\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":48508223095116,"sku":"MB0016","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237192.jpg?v=1722258231"},{"product_id":"cyd-ddyheu_ai_cododd_hi","title":"Cyd-ddyheu a'i Cododd Hi: Hanes y Blaid Lafur yng Nghymru","description":"\u003cp\u003eA hithau wedi dominyddu Gwleidyddiaeth Cymru ers dechrau’r ugeinfed ganrif, y Blaid Lafur Gymreig yw un o’r pleidiau gwleidyddol fwyaf llwyddiannus mewn unrhyw wlad, ac mae ganddi ran hollol ganolog yn hanes Cymru dros y ganrif a hanner ers ei sefydlu. Mae gan Gymru ei hun lle hynod bwysig yn hanes y Blaid Lafur, gan mai yng Nghymru yr enillodd y Blaid ei buddugoliaethau etholaethol cyntaf, a Chymru fu ei chadarnle hynaf a chryfaf erioed.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eSerch hynny, cyn nawr ni fu ymdrech i olrhain a chrynhoi hanes cyflawn y Blaid Lafur yng Nghymru yn yr Iaith Gymraeg, o’i rhagflaenwyr ymysg Cristnogion sosialaidd fel Robert Owen drwy at fuddugoliaethau ffurfiol cyntaf y blaid ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, cyfnodau cythryblus mewn llywodraeth ac fel gwrthblaid, a'i chyfnodau o lwyddiant ac o fethiant yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif. Telir sylw teilwng i ffigyrrau Cymreig blaenllaw'r blaid ac i’r cwestiynau hynny oedd o ddiddordeb neilltuol iddynt megis datganoli a'r Iaith Gymraeg. \u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cstrong\u003eD. Ben Rees\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003c\/strong\u003ewedi bod yn weithgar gyda’r Blaid Lafur ers y 1950au ac eisoes wedi cyhoeddi bywgraffiadau i amrywiaeth o unigolion ag iddynt ran flaenllaw yn y gyfrol hon, fel Cledwyn Hughes a Jim Griffiths.\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 216 o dudalennau.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":48778154869068,"sku":"MB0022","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237284.jpg?v=1727386178"},{"product_id":"dinistr-jerusalem-a-cherddi-eraill-eben-fardd","title":"Dinistr Jerusalem a Cherddi Eraill (Eben Fardd)","description":"\u003cp\u003e\u003cem\u003eLlithrig yw'r palmant llathrwyn\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003e\u003cem\u003eMôr gwaed ar y marmor gwyn.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eEben Fardd oedd enw barddol adnabyddus Ebenezer Thomas (1802-1863). Yn enedigol o Lanarmon, Gwynedd, gweithiodd fel athro mewn nifer o ysgolion yn Eifionydd a Llŷn, ac mewn mân swyddi eraill.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eRoedd ei ddiddordeb mewn barddoniaeth yn amlwg o'n gymharol ifanc, a daeth ei lwyddiant eisteddfodol cyntaf yn 1824 pan enillodd cadair Eisteddfod Powys yn y Trallwng, gyda'i awdl\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cem\u003eDinistr Jerusalem\u003c\/em\u003e, ei gerdd fwyaf ac enwocaf. Daeth llwyddiannau niferus eraill iddo mewn eisteddfodau rhanbarthol dros y degawdau nesaf; roedd hefyd yn emynydd o fri. Bu farw ond ychydig flynyddoedd ar ôl sefydlu'r Eisteddfod Genedlaethol ac nid enillodd yr un o brif wobrau'r sefydliad hwnnw, er iddo gystadlu'n aflwyddiannus yn Eisteddfod 1862 gyda'i awdl\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cem\u003eY Flwyddyn\u003c\/em\u003e.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eEben Fardd oedd un o feirdd Cymraeg mwyaf a phwysicaf ei oes. Roedd yn feistr ar y gynghanedd, ac yng ngeiriau Thomas Parry, \"gellir dweud fod ynddo fwy o anianawd y gwir fardd nag odid neb o feirdd eisteddfodol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.\" Gwelir yn ei waith cynnar uchafbwynt clasuriaeth ddisgrifiadol y Gymraeg, ac yn ei waith diweddarach dechrau Rhamantiaeth.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae'r detholiad hwn o'i waith yn cynnwys tair o'i awdlau eisteddfodol a rhyw ddau ddwsin o gerddi byrrach yn adlewyrchu doniau'r bardd o Eifionydd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 136 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51786329981260,"sku":"MB0025","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237352_3d4372e2-7b23-4ec3-9fb3-e039bb0dfaca.jpg?v=1773225838"},{"product_id":"cyswllt-jadwiga-grabos","title":"Cyswllt (Jadwiga Graboś)","description":"\u003c!-- x-tinymce\/html --\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eTarddodd \u003cem data-mce-fragment=\"1\"\u003eCyswllt\u003c\/em\u003e o angen i siarad am bethau sy’n cael eu gwthio i ymylon bywyd cymdeithasol, o angen i chwilio am ddealltwriaeth ac i ymgynefino â phwnc anabledd. Dyma lyfr sy’n bwriadu datgelu’r emosiynau a’r diymadferthwch y mae rhieni a gofalwyr plant gydag anableddau yn eu wynebu. Gwëwyd y cerddi o gariad ac anobaith, siom, bliner, a’r grym mewnol sy’n helpu rhywun cludo baich pob diwrnod. Un nod pwysig sydd iddynt: meithrin gobaith y gall pethau fod yn well os ydyn ni’n dofi ofn arwahanrwydd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eDyma gyfrol unigryw sy'n cyfuno celf wreiddiol gan Diana Lipa, barddoniaeth a defnydd bwriadol o wacter i greu profiad darllen bur wahanol i'r arfer.\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eMae \u003cstrong data-mce-fragment=\"1\"\u003eJadwiga Graboś \u003c\/strong\u003eyn ysgrifennu cerddi, rhyddiaith a chaneuon. Ers 2019, mae wedi cyhoeddi tair chyfrol o farddoniaeth ac mae ei cherddi wedi ymddangos mewn blodeugerddi a chylchgronau llenyddol yng Ngwlad Pwyl, a chafodd rhai eu cyfieithu i Lithwaneg. Enillodd ei thrydedd gyfrol, Cyswllt, y brif wobr yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Llyfr Llenyddol Gwreiddiol Świdnica 2023. Graddiodd mewn \u0026nbsp;Almaeneg a’r Gyfraith o Brifysgol Maria Curie-Skłodowska yn Lublin ac Astudiaethau Llenyddol a Chelfyddydol o’r Brifysgol Jagiellonaidd yng Nghracof. Mae hi’n byw yn Lublin ac yn gweithio yno fel athrawes ysgol uwchradd. Mae’n ymddiddori mewn theatr, ffilm, cerddoriaeth a chelfyddyd. Ar hyn o bryd, mae hi’n astudio paentio yn Academi Celfyddydau Cain Cracof. Mae ganddi bedwar o blant.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eMae \u003cstrong data-mce-fragment=\"1\"\u003eMarta Listewnik \u003c\/strong\u003eyn ddarlithydd Cymraeg a llenyddiaeth Gymreig ym Mhrifysgol Adam Mickiewicz yn Poznań. Mae wedi cyfieithu pedair nofel Gymraeg i’r Bwyleg a’u cyhoeddi ers 2017. Hwn, fodd bynnag, yw ei chyfieithiad cyhoeddedig cyntaf i’r Gymraeg.\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eClawr caled, 76 o dudalennau gyda darluniau lliw.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52664785928524,"sku":"MB0030","price":3.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/978191723744.jpg?v=1749454645"},{"product_id":"woyzeck-georg-buchner","title":"Woyzeck (Georg Büchner)","description":"\u003cp\u003e\u003cstrong\u003e\u003cem\u003eCyfieithiad Cymraeg gan\u0026nbsp;Sarah Pogoda a Huw Jones\u003c\/em\u003e\u003c\/strong\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003e\"Foneddigion, rydan ni'n ystyried cwestiwn y berthynas rhwng gwrthych a goddrych. Os ydan ni cymryd dim ond un peth mae hunan-gadarnhad organig y dwyfol yn amlygu ei hun ynddo, o uchel safbwynt, ac ystyried ei berthynas â gofod, â'r ddaear, â'r planedau. Foneddigion, os dwi'n taflu'r gath hon o'r ffenestr: sut bydd y creadur yma'n ymddwyn tuag at y centrum gravititis yn ôl ei natur ei hun?\"\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eMae milwr eiddigeddus - sy'n ychwanegu at ei incwm drwy ganiatau i ddoctor gynnal arbrofion meddygol arno - yn gwylio'i gariad yn ofalus. Drama amwys, aflonyddol sy'n gwahodd dehongliadau lu, Woyzeck yw yn un o ddramâu mwyaf adnabyddus a dylanwadol Ewrop gyda pherfformiadau, addasiadau a chyfieithiadau di-rif ar draws y byd. Mae'r gwaith hefyd wedi'i droi yn sawl ffilm, ballet ac opera.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eBu farw Büchner yn 23 oed cyn gorffen y gwaith. Does neb yn gwybod beth oedd trefn gywir y golygfeydd ac, mae gwahanol fersiynau o rhai darnau, sydd wedi arwain at addasiadau a dehongliadau hynod o amrywiol o'r ddrama.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eCydnabyddir Georg Büchner bellach fel un o fawrion y byd llenyddol ac mae prif wobr lenyddol yr Almaen, y Georg-Büchner-Preis, wedi'i henwi ar ei ôl.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003eClawr papur, 90 o dudalennau.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":53007040348492,"sku":"MB0043","price":5.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237574.jpg?v=1753714510"},{"product_id":"syniadau-ar-y-mor-gwenffrwd","title":"Syniadau ar y Môr (Gwenffrwd)","description":"\u003cp class=\"MsoNormal\" align=\"center\" style=\"margin-right: 0.05pt; text-indent: 0cm; text-align: left;\"\u003e\u003ci\u003e\u003cspan lang=\"CY\"\u003e\u003cspan style=\"mso-spacerun: yes;\"\u003e\u0026nbsp;\u0026nbsp;\u0026nbsp;\u0026nbsp;\u0026nbsp;\u0026nbsp; \u003c\/span\u003e“...pan hulio nos o gystudd\u0026nbsp;\u003cbr\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/i\u003e\u003ci\u003e\u003cspan lang=\"CY\"\u003eDros ein llwybrau cnawdol cu,\u0026nbsp;\u003cbr\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/i\u003e\u003ci\u003e\u003cspan lang=\"CY\"\u003ePan na fedd daear un llawenydd,\u0026nbsp;\u003cbr\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/i\u003e\u003ci\u003e\u003cspan lang=\"CY\"\u003eTrown ein trem i’r nefoedd fry.”\u003c\/span\u003e\u003c\/i\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\" align=\"center\" style=\"margin-right: 0.05pt; text-indent: 0cm; text-align: left;\"\u003e\u003cspan lang=\"CY\"\u003eBrodor o Sir y Fflint, bu farw’r bardd Gwenffrwd, sef Thomas Lloyd Jones (1810-1834) yn alltud yn ninas Mobile, Alabama, o’r dwymyn felen pan nad oedd ond yn dair ar hugain oed.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\" align=\"center\" style=\"margin-right: 0.05pt; text-indent: 0cm; text-align: left;\"\u003e\u003cspan lang=\"CY\"\u003eCyhoeddodd hanner cant ac un o gerddi yn ystod ei fywyd byr, sydd wedi eu casglu ynghyd yn y gyfrol hon. Er mor ifanc oedd pan fu farw roedd yn fardd wrth anian a ystyrid yn athrylith gan ei gyfoeswyr. Arloeswr yn y mesurau rhydd ac un o’r beirdd cyntaf i ysgrifennu Soned yn Gymraeg., roedd arno eisiau ysgogi chwyldro mewn barddoniaeth Gymraeg. \u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\" align=\"center\" style=\"margin-right: 0.05pt; text-indent: 0cm; text-align: left;\"\u003e\u003cspan lang=\"CY\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cspan lang=\"CY\"\u003eMae ei gerddi yn trafod testunau megis byrhoedledd bywyd a grym dychymyg dyn, a gwelir ynddynt flaenffrwyth y traddodiad telynegol a ddatblygodd yn nwylo beirdd diweddarach. Dyma’r cyhoeddiad cyntaf erioed o gyfrol gyflawn o’i farddoniaeth. \u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 128 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":56490054713676,"sku":"MB0054","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237734.jpg?v=1768397466"}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/collections\/Reduced.jpg?v=1784203959","url":"https:\/\/melinbapur.cymru\/cy\/collections\/reduced.oembed","provider":"Llyfrau Melin Bapur Books","version":"1.0","type":"link"}