{"product_id":"dirgelwch-gallt-y-ffrwd","title":"Dirgelwch Gallt y Ffrwd (E. Morgan Humphreys)","description":"\u003cp\u003e\u003cem\u003eAc yna daeth sŵn arall, sŵn gwyliadwrus, araf, sŵn y buasai'n hawdd i ddyn oedd heb fod yn gwrando fethu ei glywed... Yr oedd ffenestr y stydi yn agor yn araf. Ac yna, tra gwrandawai, clywai sŵn rhywun yn dyfod i mewn.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003e\"Daliwch eich dwylo i fyny!\" meddai Aubrey, yn uchel, gan daflu drws y stydi yn llydan agored â'i droed a goleuo'r fflachell fawr a ddaliai yn ei law chwith. Yn ei law dde yr oedd ei refolfer yn barod i waith...\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eAr ôl ei anfon i ardal dawel ar lan y môr ar drywydd carreg werthfawr a ladratwyd ar ochr arall y byd, caiff y ditectif enwog John Aubrey ei dynnu i mewn i gynllwyn cymhleth yn dilyn darganfod corff dyn lleol yn farw.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eCyn pen dim caiff ei hun yng nghanol helynt lle na all ymddiried yn neb, ac yn wynebu gelynion annelwig sy'n berffaith barod i ladd eto.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eYr ail stori am y ditectif John Aubrey, cyhoeddwyd\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cem\u003eDirgelwch Gallt y Ffrwd\u003cspan\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003eyn wreiddiol yn 1938. Nofel hiraf a mwyaf uchelgeisiol ei hawdur, roedd hi'n garreg filltir yn hanes y nofel drosedd a'r nofel antur yn Gymraeg.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 232 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":56951499981132,"sku":"MB0059","price":10.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237826.jpg?v=1773227050","url":"https:\/\/melinbapur.cymru\/cy\/products\/dirgelwch-gallt-y-ffrwd","provider":"Llyfrau Melin Bapur Books","version":"1.0","type":"link"}