{"product_id":"enigma-gerald-coles","title":"Enigma (Gerald Coles)","description":"\u003cp\u003e\u003cem\u003e\"Gwrandawai’r dyn hŷn yn ddistaw heb symud fel yr aeth hithau drwy’i darganfyddiadau fesul un. Wedi hynny, roedd yn rhaid iddi ateb nifer o gwestiynau treiddgar. Er syndod Catrin ni wenodd yr uwch-ddarlithydd. Yn lle hynny roedd golwg difrifol ar ei wyneb. Yna, trodd a chodi’r ffôn.\u003cbr\u003e\u003cbr\u003e“Meryl, Tom sy yma,” meddai wrth yr ysgrifenyddes ar ben arall y lein. “Rhaid i ni weld y Proffesor mor gyflym â phosibl...\" \"\u003cbr\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eWrth astudio ecsoblaned sy’n cylchynu seren gyfagos, mae seryddwr yn gwneud darganfyddiad fydd yn trawsnewid syniadau’r byd cyfan am eu lle yn y bydysawd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eOnd os ydynt am gael atebion i’w holl gwestiynau am ZX5491c, bydd rhaid i’r ddynoliaeth ddysgu i gyd-weithio.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eDaw Gerald Coles yn wreiddiol o Middlesex, ond mae wedi byw yng Nghymru ers dros 60 o flynyddoedd. Cyn ymddeol roedd yn Ymgynghorydd Meddygol yn adran Arennol Ysbyty Athrofaol Cymru, ac ers dysgu’r Gymraeg fel oedolyn mae wedi cyfrannu erthyglau ar wyddoniaeth a meddyginiaeth i’r \u003cem\u003eFaner Newydd\u003c\/em\u003e. \u003cem\u003eEnigma \u003c\/em\u003eyw ei nofel gyntaf, ac un o'r nofelau \u003cem\u003ehard sci-fi\u003c\/em\u003e cyntaf yn Gymraeg.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr Papur, 222 o dudalennau.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58923328799052,"sku":"MB0065","price":10.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237932.jpg?v=1790172706","url":"https:\/\/melinbapur.cymru\/cy\/products\/enigma-gerald-coles","provider":"Llyfrau Melin Bapur Books","version":"1.0","type":"link"}