{"product_id":"marged-t-glynne-davies","title":"Marged (T. Glynne Davies)","description":"\u003cp\u003e\u003cem\u003e“Fel hyn yr oedd bywyd wedi bod: fel hyn y byddai am hanner canrif wedyn nes i’r Rhyfel Mawr roi sgytiad i bawb a phopeth a throi’r dreflan fach unwaith eto yn rhan o’r byd mawr o’i chwmpas.\"\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003ePan aiff Marged Rowland at yr hen Sera Cesi i gael dweud ei ffortiwn, ychydig a ŵyr y graddau y bydd darogan y wrach honno’n rhagfynegi gweddill ei bywyd – ei pherthynas gyda’i gŵr, Ifan, a ffawd ei phlant, Gruff, Lora a Robat-jon.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eRhamant, trasiedi, rhyfela – mae'r nofel epig hon, un o'r mwyaf erioed yn Gymraeg, yn gyforiog ohonynt, ond mae yma hefyd ysgafnder a dychan, ac yn fwy na dim mae yma hanes: hanes Llanrwst ar droad yr ugeinfed ganrif, hanes chwalfa gymdeithasol y Rhyfel Byd Cyntaf, a hanes y werin Gymraeg mewn cyfnod cythryblus.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMarged oedd ail nofel y llenor a’r newyddiadurwr adnabyddus T. Glynne Davies (1926-1988), ac fe’i croesawyd adeg ei chyhoeddi’r tro cyntaf yn 1974 fel datblygiad o bwys hanesyddol i’r nofel Gymraeg. Cyflwyna’r argraffiad hwn olygiad cwbl newydd gan Peredur Glyn – ŵyr yr awdur – i gynulleidfa newydd ei mwynhau.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 486 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57100076908876,"sku":"MB0060","price":14.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237864.jpg?v=1774620941","url":"https:\/\/melinbapur.cymru\/cy\/products\/marged-t-glynne-davies","provider":"Llyfrau Melin Bapur Books","version":"1.0","type":"link"}