{"product_id":"profedigaethau-enoc-huws-daniel-owen","title":"Profedigaethau Enoc Huws (Daniel Owen)","description":"\u003cp\u003e\u003cem\u003e“Mi a wn ei fod yn bwnc tyner a llednais i’w grybwyll – mi a wn mai mwy hyfryd i’r teimlad yw gwrando ar leisiwr da yn canu, ‘Cymru Lân, gwlad y gân,’ a rhoi encore iddo, ac iddo yntau drachefn roddi i ni ‘Hen wlad y menig gwynion.’ Ond ynfytyn a fyddai y dyn a dybiai ei fod wedi cael holl hanes Cymru yn y ddwy gân.”\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eEr gwaetha’i wedd barchus, mae lwc Capten Richard Trefor yn dirwyn i ben, a’i ddyledion yn tyfu. Ei unig obaith yw cychwyn menter newydd, a chael hyd i rywrai sy’n ddigon cyfoethog – ac yn ddigon diniwed – i fuddsoddi ynddi. Tybed a fydd y siopwr parchus a chefnog Enoc Huws yn gwneud y tro? Ag yntau dros ei ben a’i glustiau mewn cariad gyda Susi, merch y Capten, beth fydd yn darfod gyntaf – cyfoeth Enoc, amynedd Susi, neu ddrygioni Capten Trefor?\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eDaniel Owen (1836-1895) oedd nofelydd mawr gyntaf yr iaith Gymraeg, ac yn Enoc Huws gwelir ef ar anterth ei ddoniau dychanol a llenyddol, yn cynhyrchu un o uchafbwyntiau cydnabyddedig llenyddiaeth Gymraeg oes Fictoria. Comedi cymdeithasol, mae hiwmor a ffraethineb y nofel hon wedi’u plethu’n feistrolgar â sylwebaeth graff am ragrith sy’n parhau’n berthnasol. Mae’r argraffiad newydd hwn heb ei dalfyrru. \u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr Papur, 376 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58813590241612,"sku":"MB006","price":13.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781917237949.jpg?v=1789479877","url":"https:\/\/melinbapur.cymru\/cy\/products\/profedigaethau-enoc-huws-daniel-owen","provider":"Llyfrau Melin Bapur Books","version":"1.0","type":"link"}