{"product_id":"y-cychwyn-t-rowland-hughes","title":"Y Cychwyn (T. Rowland Hughes)","description":"\u003cp\u003e\u003cem\u003e““Bora clir, braf, ynte?” meddai hi wedi iddi groesi at y ffenestr.\u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e\u003cem\u003e“Y? Clir? A’r hen darth ’na dros y pentra’ i gyd!”\u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e\u003cem\u003eEdrychodd hi’n ddryslyd arno.\u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e\u003cem\u003e“Welwch chi gapal Siloam, Nyrs?”\u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e\u003cem\u003e“Gwela’. Ond does ’na neb ar y ffordd eto. Rhy gynnar o lawar.”\u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e\u003cem\u003e“Nyrs?”\u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e\u003cem\u003e“Ia, Robat Ellis?”\u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e\u003cem\u003e“Wela’ i mo’r capal na’r ysgol na’r eglwys na dim.”\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eWedi dirywiad sydyn ac annisgwyl ei dad, rhaid i Owen Ellis dyfu’n gyflym. Er ei fod yn chwarelwr wrth ei waith, mae ei ddawn naturiol wedi’i fwriadu i rywbeth mwy.\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eOnd a fydd ei dlodi a’i gyfrifoldebau’n profi’n drech na’i uchelgais?\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eFel mae’r teitl yn awgrymu, bwriad T. Rowland Hughes oedd y byddai \u003cem\u003eY Cychwyn \u003c\/em\u003eyn rhan gyntaf ei waith mwyaf: trioleg yn dilyn Owen Ellis drwy ei fywyd cyfan o’i ieuenctid i’w henaint. Yn y diwedd profodd ei gyflwr dirywiol ei hun yn drech nag ef, ac \u003cem\u003eY Cychwyn \u003c\/em\u003efyddai ei nofel olaf; ond ynddi gwelir un o nofelwyr Cymraeg mwyaf ei oes ar anterth ei grefft.\u003cbr\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr papur, 266 tudalen.\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":59130908246348,"sku":"MB0068","price":11.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/9781809210043.jpg?v=1791806181","url":"https:\/\/melinbapur.cymru\/cy\/products\/y-cychwyn-t-rowland-hughes","provider":"Llyfrau Melin Bapur Books","version":"1.0","type":"link"}