{"product_id":"y-proffwyd-khalil-gibran","title":"Y Proffwyd (Khalil Gibran)","description":"\u003cp\u003e\u003cspan\u003eA bydded eich gorau er mwyn eich cyfaill.\u003c\/span\u003e\u003cbr\u003e\u003cspan\u003eOs rhaid iddo wybod trai eich llanw, bydded iddo wybod ei lif hefyd.\u003c\/span\u003e\u003cbr\u003e\u003cspan\u003eCanys ai rhywun i’w geisio ag oriau i’w lladd yw eich cyfaill?\u003c\/span\u003e\u003cbr\u003e\u003cspan\u003eCeisiwch ef bob amser ag oriau i’w byw.\u003c\/span\u003e\u003cbr\u003e\u003cspan\u003eCanys ei eiddo ef yw diwallu’ch angen, eithr nid llenwi’ch gwacter.\u003c\/span\u003e\u003cbr\u003e\u003cspan\u003eAc ym melyster cyfeillgarwch, bydded chwerthin a rhannu pleserau.\u003c\/span\u003e\u003cbr\u003e\u003cspan\u003eCanys yng ngwlith y pethau bychain y mae’r galon yn canfod ei bore ac yn cael ei hadfywio.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eLlyfr sy'n cynnwys\u0026nbsp;26 o ddamhegion yw \u003cem\u003eY Proffwyd\u003c\/em\u003e, a luniwyd yn wreiddiol yn Saesneg ar ffurf ryddiaith prydyddol gan y bardd a’r athronydd Libanaidd-Americanaidd Kahlil Gibran. Fe’i cyhoeddwyd gyntaf ym 1923, a dyma waith mwyaf adnabyddus Gibran. Mae\u0026nbsp;\u003ci\u003eY Proffwyd\u003c\/i\u003e\u0026nbsp;wedi’i gyfieithu i dros 100 o ieithoedd, gan gynnwys y cyfieithiad Cymraeg hwn gan Dimitri Hrapof, sy'n ei wneud yn un o’r llyfrau a gyfieithwyd i'r nifer fwyaf o ieithoedd erioed. Ni fu erioed allan o brint.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae’r hanes yn ein cyflwyno i’r Proffwyd Almwstaffa, sydd wedi disgwyl am ddeuddeng mlynedd am ei long, a fydd o’r diwedd yn ei gludo’n ôl i ynys ei enedigaeth. Cyn iddo ymadael, mae rhai o drigolion dinas Orffalês yn gofyn iddo, am y tro olaf, rannu â hwy ei ddirnadaethau ar amryw bynciau (“Llefara wrthym am …”). Mae’r Proffwyd yn traddodi 26 o bregethau sy’n ymdrin â chwestiynau sylfaenol bywyd dynol, sef cariad, priodas, plant, rhoi, bwyta ac yfed, gwaith, llawenydd a galar, tai, dillad, prynu a gwerthu, trosedd a chosb, cyfreithiau, rhyddid, rheswm ac angerdd, poen, hunan-adnabyddiaeth, addysgu, cyfeillgarwch, siarad, amser, daioni a drygioni, gweddi, pleser, harddwch, crefydd ac, yn olaf, angau. Yn y bennod olaf, mae Almwstaffa yn plethu trafodaeth ar gwestiwn ystyr bywyd i’w eiriau ymadael.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eClawr Papur, 136 o dudalennau, gyda darluniau.\u003cbr\u003e\u003cbr\u003e\u003cstrong\u003eNODER: \u003c\/strong\u003e\u003cspan\u003eNid Melin Bapur gyhoeddoedd y llyfr hwn, ac yn anffodus ni allwn ei chynnig i gwsmeriaid yn UDA neu Awstralia.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e","brand":"Llyfrau Melin Bapur Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":59227896545612,"sku":"MB0069","price":16.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0801\/5603\/3356\/files\/YProffwyd.jpg?v=1792149018","url":"https:\/\/melinbapur.cymru\/cy\/products\/y-proffwyd-khalil-gibran","provider":"Llyfrau Melin Bapur Books","version":"1.0","type":"link"}