Cwestiynau Cyffredin

C. Beth yw ystyr 'cyhoeddwr llyfrau annibynnol'?

A: Dydyn ni ddim yn derbyn grantiau na chyllid cyhoeddus gan y e.e. y Cyngor Llyfrau, Cyngor y Celfyddydau ac ati.

C. Faint o amser fydd hi'n cymryd i fy llyfrau gyrraedd?

A: Os ydych chi'n byw yn y DU bydd ein llyfrau'n cyrraedd o'n warws yn Sir Fynwy ymhen 2-3 diwrnod gwaith fel arfer, ond gall fod diwrnod neu ddau'n ychwanegol gyda llyfrau newydd. Yng ngweddill y byd mae'n llyfrau'n cael eu hargraffu fesul archeb, felly galllent gymryd ychydig yn hirach yn dibynnu ar faint yr archeb a'r dull postio a ddewiswyd gennych.  

C. Rwy'n meddwl y dylech chi gyhoeddi fy hoff awdur...

A: Syniad gwych! Rhowch wybod: post@melinbapur.cymru a chawn weld beth sy'n bosib.

C. Allwch chi gyhoeddi fy llyfr i?

A: Efallai! Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd wedi ysgrifennu unrhyw beth yn Gymraeg, wedi cyfieithu unrhyw beth i'r Gymraeg, neu wedi ysgrifennu neu wedi cyfieithu llyfr mewn unrhyw iaith gyda rhyw berthnasedd Cymreig. Cysylltwch â post@melinbapur.cymru.

C. Siop lyfrau ydw i - oes modd i mi stocio'ch llyfrau - alla i?

A: Cewch wir! Cysylltwch â post@melinbapur.com.

C. Hoffwn i roi gwybod i chi am broblem gyda llyfr neu archeb.

A: Cysylltwch â post@melinbapur.com.

C. Ydy'ch llyfrau ar gael fel eLyfrau?

A: Ydyn! Gallwch brynu eLyfrau o'n llyfrau o'r darparwyr cyffredin e.e. Kindle, Apple Books ac ati. Rydym yn ymdrechu i gyhoeddi eLyfrau ar yr un amser â'r llyfrau clawr paper, fodd bynnag efallai na fydd yn bosib troi pob llyfr yn eLyfr oherwydd materion yn ymwneud â hawliau.

C. Dwi'n meddwl bod y gwaith rydych chi'n ei wneud yn bwysig iawn. Oes ffordd i mi gefnogi?

A: Drwy brynu'r llyfrau, wrth gwrs, ond hefyd drwy ddweud wrth bobl amdanom ni. Os hoffech chi gyfrannu'n ariannol gallwch wneud drwy ein tudalen Patreon yma: https://www.patreon.com/LlyfrauMelinBapurBooks

C. Rwy'n byw tu allan i'r DU, oes mod i mi brynu eich llyfrau?

A: Ar hyn o bryd rydym yn gallu anfon llyfrau i'r DU, yr Undeb Ewropeaidd, yr UDA ac Awstralia. Bydd y llyfr(au)'n cael eu argraffu o fewn y wlad (neu o fewn y DU/EU) chi; mae'r cyfraddau postio'n adlewyrchu'r hyn mae'r argraffwyr yn codi arnom ni i anfon llyfrau i'r lleoliadau hyn. Os ydych chi'n byw y tu allan i'r gwledydd yma yn anffodus ni fydd modd i chi brynu'n llyfrau o'r wefan hon; fodd bynnag dylai fod yn bosib i chi gael hyd i'n llyfrau ar y masnachwyr llyfrau arlein arferol.

C. Rydw i wedi newid fy meddwl ac hoffwn ddychwelyd llyfr(au) a brynnais gennych chi.

A: Gallwch ddychwelyd llyfrau a brynwyd oddi ar ein gwefan o fewn 2 fis o'r dyddiad y gwnaethoch chi brynu eich llyfr. Cysylltwch â ni i drafod dychwelyd archeb (post@melinbapur.cymru).

C. Prynais lyfr Melin Bapur o Amazon, eBay neu rywle arall ac mae yna broblem.

A: Os brynoch chi'r llyfr o wefan arall ac mae problem gyda'r archeb neu os ddifrodwyd y llyfrau wrth eu cludo, bydd yn rhaid i chi gysylltu â'r wefan lle brynoch chi'r llyfr - yn ffodus nid oes dim byd y gallwn ni ei wneud yn fan hyn os gwnaethpwyd yr archeb o wefan gwahanol. Os ydych chi'n meddwl fod yna wall wedi digwydd gyda'r argraffu neu os oes rhywbeth arall o'i le'n ymwneud â'r llyfrau eu hunain, cysylltwch â ni drwy post@melinbapur.cymru i roi gwybod (Nodwch na fydd modd i ni gynnig arian yn ôl os brynwyd y llyfr o wefan arall; bydd yn rhaid i chi gysylltu gyda'r wefan berthnasol).

C. Mae'r Gymraeg yn anghywir ar eich gwefan / mae Saesneg ar ochr Gymraeg eich gwefan 

A: Rhowch wybod i ni: post@melinbapur.com; yn ddelfrydol, gan anfon sgrin-lun o'r achos benodol. Gan nad yw gweinydd y wefan a rhai o feddalweddau'r wefan yn cefnogi'r Gymraeg, yn anffodus mae rhai pethau nad yw'r system yn ei ganiatau i ni eu rhoi yn Gymraeg (e.e. y dulliau cludiant, y botwm "Remember me/Save your details for a Faster Checkout", ambell i fotwm "Buy it Now" ac ati). Da'n ni wedi gwneud ein gorau!

C. Sut mae cael gwybod am lyfrau newydd?

A: Dilynwch ni ar X @MelinBapur neu Facebook @MelinBapur