Pam cyfieithu o'r Saesneg?

Ers sefydlu Melin Bapur ar ddiwedd 2023 a’i lansio yn Chwefror 2024, rydyn ni wedi bod yn brysur iawn. Mae’r brosiect wedi llwyddo tu hwnt i’m disgwyliadau ac rwyf wedi fy argyhoeddi bod hyn yn waith pwysig sy’n werth ei wneud. 

Mae’r mwyafrif helaeth o’r adborth rydyn ni wedi’i gael wedi bod yn eithriadol o gefnogol a braf iawn yw nodi bod sefydliadu Cymraeg a Chymreig fel Radio Cymru, Barn, Golwg, nation.cymru a Cymru Fyw wedi rhoi sylw i’n gwaith; pleser mwy byth oedd cael cyfieithwyr ac awduron talentog fel Anna Gruffydd, Mary Burdett-Jones, Ian Parri, Peredur Glyn, Sharon Morgan a Richard Crowe yn dod atom a chynnig i ni’r fraint o gael gyhoeddi eu gwaith.

Serch hynny rydym wedi derbyn ambell sylw mwy negyddol gan ambell unigolyn – dim byd gwirioneddol cas na sarhaus, diolch byth, ond rhai sylwadau’n codi yn benodol ynghylch ein penderfyniad i gyhoeddi cyfieithiadau Cymraeg o lyfrau Saesneg fel Yr Hobyd, Y Peiriant Amser, Shinani’n Siarad, Galwad Cthulhu ac Y Trydydd Plismon ac yn cwestiynu doethineb neu priodoldeb hyn, ac yn benodol, yn ein cyhuddo o danseilio llenyddiaeth wreiddiol yn yr iaith Gymraeg. 

Gan mai’r llyfrau yma yw ein rhai mwyaf poblogaidd, a’n bod yn bwriadu cyhoeddi rhagor ohonynt, roeddwn eisiau treulio ychydig o amser gyda hwn, ein blogiad cyntaf, i ymateb i’r beirniadaethau yma ac i geisio esbonio ein rhesymeg, yn y gobaith y gallwn lleddfu rhai o’r pryderon yma.

Yn seiliedig ar y sylwadau rydyn ni wedi eu derbyn, y dadleuon yn erbyn cyfieithu o’r Saesneg yn fras yw 1) y bydd pobl yn prynu ac yn darllen Yr Hobyd ynlle gweithiau llenyddol gwreiddiol Cymraeg, fydd yn tanseilio gweithiau gwreiddiol yn y Gymraeg; 2) does dim pwynt: gan fod siaradwyr Cymraeg (yn gyffredinol) yn gallu darllen Saesneg byddant yn darllen The Hobbit ynlle Yr Hobyd.

Nawr bydd sylwebwyr craff yn sylwi bod y dadleuon yma’n gwrth-ddweud ei gilydd: os nad oes neb am eu darllen yna sut allen nhw niweidio awduron Cymraeg? Digon hawdd beth bynnag yw gwrth-brofi’r ail bwynt drwy’r ffaith bod pobl yn prynu ac yn darllen y llyfrau hyn; camddealltwriaeth yw hyn o’r rhesymau pam mae rhai pobl yn dewis darllen llyfrau (Cymraeg neu fel arall) sy’n codi, mae’n debyg, o ragfarn yn erbyn cyfieithu fel proses. Wrth reswm dydyn ni ddim yn gwybod popeth am bob un o’n cwsmeriaid, ond baswn yn hyderus bod mwyafrif y prynwyr yn achos llawer o’r llyfrau hyn eisoes wedi darllen y llyfr dan sylw yn Saesneg.

At y pwynt cyntaf felly: bod cyfieithiadau o’r Saesneg yn niweidio awduron Cymraeg gwreiddiol. Y syniad, rhaid cymryd, yw y bydd prynwyr a darllenwyr yn dewis darllen Tolkien neu Eve Ensler ynlle darllen llyfrau gan awduron Cymraeg.

Mae’n hyn yn awgrymu bod y galw am lyfrau yn y Gymraeg yn hollol sefydlog: mae prynu neu ddarllen un llyfr Cymraeg yn golygu o anghenraid na fydd y darllenwr hwnnw yn prynu neu ddarllen llyfr Cymraeg arall. Mae cyhoeddi, dan y rhagdybiaeth yma, yn gêm sero-swm.

O’i osod allan felly mae’r ddadl yn amlwg yn wirion, ond hyd yn oed pe bai’r gosodiad yn wir, mae’n dangos diffyg ffydd mewn gwerth ac apêl ein hawduron Cymraeg. Ydyn ni mewn gwirionedd yn credu mai’r unig reswm bod pobl yn darllen awduron Cymraeg yw nad yw’r llyfr maen nhw wirioneddol eisiau ei ddarllen ar gael yn Gymraeg; a bod rhaid – er lles ein hawduron – rhwystro mynediad darllenwyr at lyfrau eraill, rhag ofn eu bod yn well ganddynt? Os felly man a man i’r diwydiant cyhoeddi Cymraeg roi’r ffidl yn y to. Na: rwy’n credu bod mwy o werth i lenyddiaeth Gymraeg na hynny!

(Fe’m cyhuddwyd o Thatcheriaeth unwaith wrth wneud y ddadl yma).

Mewn gwirionedd wrth gwrs mae llyfrau Cymraeg eisoes yn gorfod cystadlu gyda Tolkien, J. K. Rowling ac ati, boed eu bod ar gael yn Gymraeg neu beidio; maen nhw’n cystadlu hefyd gyda’r teledu a’r ffôn clyfar a Netflix a’r rhyngrwyd a Facebook a’r gym a phopeth arall mae pobl yn dewis treulio’u hamser yn ei wneud. Mae darllenwyr Cymraeg eisoes yn darllen Tolkien ac ati, ac maen nhw wastad wedi gwneud, ond cyn nawr roedd rhaid iddynt eu darllen yn Saenseg.

Os llyfr newydd ar gael yn Gymraeg, gall olygu bod rhywun yn dewis ei ddarllen ynlle llyfr Cymraeg gwahanol. Gall hefyd gymryd lle llyfr Saesneg yn rhestr ddarllen y darllenwr; neu olygu ei fod ef neu hi’n treulio llai o amser yn gwneud rhywbeth arall a rhagor o amser yn darllen Cymraeg. Hwyrach mai’r llyfr mae Shinani’n Siarad mwyaf tebyg o’i ddisodli oddi ar restr darllen yw The Vagina Monologues!

Mae’r posibilrwydd hefyd, yn enwedig gyda llyfrau fel Yr Hobyd, bod rhai llyfrau’n denu pobl i mewn i fyd darllen llyfrau Cymraeg am y tro cyntaf. Yn enwedig mewn perthynas ag Yr Hobyd mae nifer fawr o’n cwsmeriaid ni wedi cysylltu gyda ni i awgrymu nad ydyn nhw fel arfer yn darllen yn y Gymraeg, ond eu bod eisiau gwneud; nifer sylweddol ohonynt yn ddysgwyr, sydd wrth gwrs amlygu marchnad arall pwysig ar gyfer llyfrau o’r fath. Mae darllen llyfr rydych chi eisoes yn gyfarwydd mewn iaith newydd yn ffordd ardderchog o ddysgu iaith newydd (ac hyn mewn gwirionedd esgorodd ar y syniad o gyfieithu’r Hobyd yn y lle cyntaf). Plant a phobl ifanc hefyd, neu unrhyw un mewn gwirionedd sy’n hoffi’r syniad o ddarllen yn Gymraeg – ac yn dymuno gwneud, ond yn teimlo nad ydyn nhw’n gwybod ble i ddechrau, ac/neu yn poeni am faint y byddant yn deall llyfr anghyfarwydd.

Wrth gwrs does dim sicrwydd y bydd neb sy’n darllen (heb sôn am brynu) cyfieithiad i’r Gymraeg yn mynd ymlaen i ddarllen unrhyw lyfr Cymraeg arall; ond hyd yn oed wedyn dyna rywun a brynodd llyfr Cymraeg – a gobeithio ei ddarllen! – na fyddai fel arall wedi gwneud. Os gwneud hynny sy’n rhoi’r hwb roedd angen arnynt i ddechrau darllen Cymraeg yn fwy rheolaidd, yna gwell fyth.

Peidiwch â chamddeall: baswn i ddim eisiau gweld byd lle’r unig lyfrau Cymraeg oedd ar gael oedd cyfieithiadau. Rydw i eisiau gweld awduron Cymraeg yn cael eu cefnogi a’u hyrwyddo hefyd, a rhan bwysig o’n strategaeth yma yw na fyddwn yn cystadlu yn erbyn y wasg Gymraeg traddodiadol ar gyfer grantiau’r Cyngor Llyfrau, yn rannol er mwyn hyn yn benodol (dydyn nhw ddim eisiau cefnogi cyfieithiadau ta’ beth). Ond dwi’n meddwl bod y sefyllfa sydd ohoni, lle mae bron dim byd yn cael ei gyfieithu heblaw llenyddiaeth plant, yn un lle mae na fwy na digon o le i Melin Bapur; ac yn credu bod y diwydiant yn ddigon cryf i oroesi heb angen poeni amdanom ni’n eu gwthio allan o fusnes, am y tro! 

Mae’n debyg na fydd pawb wedi’u hargyhoeddi, ond mae hynny’n iawn hefyd; does neb yn eich gorfodi i brynu ein llyfrau (hwyrach mai dyna minnau’n bod yn Thatcheraidd eto!). Gobeithio fodd bynnag y gallwn eich perswadio i edrych ar un o’r 18 o weithiau gwreiddiol gan awduron Cymraeg rydyn ni wedi’u cyhoeddi hefyd?

 

 

Back to blog

2 comments

“Mae’r posibilrwydd hefyd, yn enwedig gyda llyfrau fel Yr Hobyd, bod rhai llyfrau’n denu pobl i mewn i fyd darllen llyfrau Cymraeg am y tro cyntaf.”

Rydym wedi gweld hyn y digwydd nifer fawr o weithiau yn barod!

Jo Knell

deud da, boi!

anna gruffydd

Leave a comment

Please note, comments need to be approved before they are published.