Gwybodaeth am Gludo a Threthi

Gallwch archebu llyfrau o www.melinbapur.cymru i lawer o wledydd ledled y byd. Rydym yn ceisio gwneud ein gorau i'n holl gwsmeriaid ac wrth lwc mae llyfrau'n aml yn cael eu heithrio o ran TAW, ond cofiwch nad ydym ni'n gyfrifol am gyfundrefnau treth na dyletswyddau mewnforio! Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer gwleydd penodol am drefniadau cludo a threfniadau treth.

Cwsmeriaid yng Nghymru, Lloegr, Llanrwst, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Gallwch archebu o'n catalog llawn. Bydd eich archeb yn cael ei hanfon o'n warws yn Sir Fynwy a byddwch yn derbyn gwybodaeth tracio unwaith y bydd yr archeb wedi'i gadarnhau; wrth gwrs ni fydd unrhyw drethi na dyletswyddau'n berthnasol.

Cwsmeriaid yn Unol Daleithiau America ac Awstralia

Bydd eich archeb yn cael ei hargraffu ar alw mewn argraffydd lleol yn UDA / Awstralia. Fel arfer, bydd hyn yn cymryd hyd at ryw wythnos. Ni chodir unrhyw ddyletswyddau mewnforio arnoch a bydd yr holl drethi lleol perthnasol yn cael eu casglu ar eich rhan heb unrhyw dâl ychwanegol. Unwaith fydd yr archeb yn barod, caiff ei anfon a byddwch yn derbyn cadarnhad gennym ni, a gwybodaeth tracio fel y gallwch ddilyn eich parsel. Gall yr amser y mae'n ei gymryd i'ch archeb gyrraedd ddibynnu ar ble yn union rydych chi wedi'ch lleoli e.e. Alaska. Yn anffodus, dim ond llyfrau yr ydym ni ein hunain yn eu cyhoeddi y gallwn eu cynnig yn y marchnadoedd yma (felly e.e. dim Hobbit Gwyddelig).

Cwsmeriaid yn y gwledydd canlynol yn yr UE ac Ewrop:

  • Yr Almaen
  • Ffrainc
  • Gweriniaeth Iwerddon
  • Portiwgal
  • Yr Iseldiroedd
  • Cyprus
  • Malta
  • Awstria
  • Y Swistir
  • Lwcsembwrg
  • Norwy

Gallwch archebu o'n catalog llawn. Bydd eich archeb yn cael ei hanfon o'n warws yn ne Cymru a byddwn yn rhannu gwybodaeth tracio. Bydd trethi a thollau, lle bo'n berthnasol, yn cael eu talu ar eich rhan ac ni ddylech orfod talu unrhyw gostau ychwanegol.

Cwsmeriaid yn y gwledydd canlynol

  • Gweddill yr UE ac eithrio Denmarc.
  • Albania, Andorra, Armenia, Azerbaijan, Bosnia, Georgia, Gwlad yr Ia, Kosovo, Liechtenstein, Moldofa, Montenegro, Serbia, Iwcrain.
  • Canada
  • Seland Newydd

Gallwch archebu o'n catalog llawn. Bydd eich archeb yn cael ei hanfon o'n warws yn ne Cymru a darperir gwybodaeth tracio. Gall trethi a dyletswyddau fod yn berthnasol yn dibynnu ar drefniadau lleol; ni ​​allwn warantu na fydd angen talu ffioedd ychwanegol.

Cwsmeriaid yn Nenmarc a Gweddill y Byd

Yn anffodus ni allwn werthu ein llyfrau o www.melinbapur.cymru i'r tiriogaethau hyn, fodd bynnag, dylech allu dod o hyd i'n cynnyrch ar fanwerthwyr ar-lein eraill. Pam Denmarc? Yn anffodus, mae ein cwsmeriaid o Ddenmarc wedi cael eu taro â ffioedd mewnforio afresymol sawl gwaith gwerth yr archebion; mae hyn wedi ein gorfodi i dynnu ein gwasanaethau yn ôl o Ddenmarc.