Cysgodau y Blynyddoedd Gynt (Gwyneth Vaughan)
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt (Gwyneth Vaughan)
“I'r hen Gymry gynt, un o arwyddion y nefoedd ydoedd, yn dangos y dyfodol iddynt. Os byddai'r goleuni yn wyn, disgwylient hwy ddiwygiad crefyddol grymus, ond os goleuni coch fyddai, yna heb os nac oni bai: rhyfel oedd yn arwyddocau."
Sgweier cyfrwys sy'n ceisio rhwydo'r bonheddwr ifanc; y ferch ifanc sy'n hiraethu ar ôl ei chariad; yr etifeddes ddiniwed sy'n wystl i gynlluniau ei thad; yr ysbrydion rhyfedd sy'n rheibio'r plwyf; y blaenor call; yr hen wraig ofergoelus; ac wrth gwrs, y Sipswn, sy'n cyslltu'r rhain i gyd gyda'i gilydd—ac sydd â llawer mwy iddynt na'r golwg...
Wedi'i hysgrifennu'n wreiddiol yn 1907, Cysgodau y Blynyddoedd Gynt oedd trydedd nofel Gwyneth Vaughan ac mae'n ymddangos yma ar ffurf cyfrol am y tro cyntaf erioed, a gyda rhagymadrodd gan Rosanne Reeves, cofiannydd Gwyneth Vaughan. Yn y nofel hon cawn hanes dirgelwch a rhagrith, goddefgarwch a maddeuant; ond gyda'r nofel hon hefyd cofnododd Gwyneth Vaughan ystod helaeth o ofergoelion a thraddodiadau Cymry'r gorffennol, o'r Aderyn Corff i gyfarfodydd barddonol.
"Mae ymddiddan y bobl gyffredin yn ddiddanwch pur. Maent mor naturiol ac mor Gymreig..." —Mari Ellis
"Deil [nofelau Gwyneth Vaughan] gymhariaeth â llawer ystori a fu'n dra llwyddiannus yn Lloegr, a rhagorant y tu hwnt i gymhariaeth ar y chwedlau Saesneg am Gymru a
ysgrifennwyd gan Saeson neu Gymry Seisnig."
—T. Gwynn Jones
Clawr Papur, 340 tudalen.