Enaid Lewys Meredydd (T. Gwynn Jones)
Enaid Lewys Meredydd (T. Gwynn Jones)
“...roedd dwy long awyr yn troi ac yn hofran, weithiau’n codi ac weithiau'n gostwng uwchben Sir Fôn, a'r naill fel pe buasai yn ymlid y llall, fel pe buasent ddwy wylan ar yr aden. Daethant yn nes, nes. Roeddynt o'r diwedd uwchben Menai.
“Gwêl!” ebe Ap Rhys.
Gwelwyd rhywbeth fel llinyn o dân yn neidio o un llong at y llall, a’r
funud nesaf, roedd y naill yn disgyn fel carreg i'r afon..."
Y flwyddyn yw 2002. Hyd ei oes, mae Meredydd Fychan wedi bod yn
glaf anymwybodol dan ofal meddyg, yn fyw ond heb ddangos unrhyw arwydd o ymwybyddiaeth. Ond un bore, mae’n deffro, ac yn taeru mai
ef yw Lewys Meredydd, bonheddwr fu farw bron i ganrif yn ôl. Does bosib ei fod yn dweud y gwir?
Ysgrifennwyd Enaid Lewys Meredydd yn 1905, ac mae'n ymddangos
yn y gyfrol hon ar ffurf llyfr am y tro cyntaf erioed. Y nofel hon,
hwyrach, yw'r nofel ffuglen wyddonol cynharaf i'w hysgrifennu yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n cynnig cipolwg unigryw o ddychymyg un o Gymry blaenllaw’r oes ynglŷn â’r dyfodol.
"Dyma stori sy'n ceisio datrys dirgelwch un o deithwyr rhyng-amserol cynharaf y Gymraeg, gyda golwg feirniadol ar Gymry'i chyfnod a phrf gymeriad sy'n deisyfu dyfodol gwell a mwy gwaraidd i Gymru a'r Gymraeg." —Miriam Elin Jones
Clawr Papur, 128 tudalen.