Hepgor i wybodaeth llyfr
1 o 1

Llio Plas y Nos (R. Silyn Roberts)

Llio Plas y Nos (R. Silyn Roberts)

Pris arferol £7.99 GBP
Pris arferol Pris yn yr arwethiant £7.99 GBP
Gwerthu Dim ar ôl
Treth wedi'i chynnwys.

“...noson oedd hon i lenwi’r ofnus â braw. Symudai cysgodion y cymylau ar hyd wyneb y ddaear, a newidiai cysgodion brigau’r coed i bob ffurf a llun dan gernodiau ffyrnig gwynt y gorllewin. Awgrymai’r cysgodion ansicr eu dawns bresenoldeb ellyllon a drychiolaethau i’r dychymyg; a swniai’r gwynt trwy’r brigau a’r glaswellt fel rhuthr lleng o ysbrydion anweledig yng ngolau gwan, gwelw’r lloer; cymerai pethau cyffredin ffurfiau annaturiol, a hawdd i feddwl dyn oed llithro i stad freuddwydiol ac ofnus, ac ymlenwi â hanesion dychrynllyd am ffyrdd a llwybrau lle y cyniweiria ysbrydion anesmwyth eu byd.”

Ar eu gwyliau yng Nyffryn Llifon, mae Gwynn Morgan a'i gyfaill, y Ffrancwr Ivor Bonnard, yn clywed sibrydion am yr hen adfail rhyfedd, Plas y Nos, ac yn dysgu am hanes arswydus y lle. Wedi iddynt fynd i'w archwilio, mae ar Ivor eisiau gwybod rhagor. Tybed, mewn gwirionedd, ai cyd-ddigwyddiad yw hi eu bod ill dau yno?

 Stori ddirgelwch gyffrous sy'n cyfleu elfennau o syniadaeth rhamantaidd ei hawdur, cyhoeddwyd Llio Plas y Nos gyntaf yn 1906 a'i hail-gyhoeddi ddwywaith yn yr 1940au. Mae'r argraffiad newydd hon mewn orgraff ddiwygiedig yn cyflwyno'r nofel o'r newydd i ddarllenwyr heddiw.

Clawr papur, 124 o dudalennau.

Gweld manylion llawn