Nest Merfyn (Mary Oliver Jones)
Nest Merfyn (Mary Oliver Jones)
"'Tom, tyrd i lawr y funud yma,’ meddai llais un a adnabyddai Tom fel eiddo i Bill Tomos, porthor yn y Plas.
‘Beth sy’n bod?’
‘Mr. Pugh wedi’i ladd!”
Tra’n ymweld â bro enedigol ei thad, daw merch ifanc dan amheuaeth o lofruddio’r gŵr y mae disgwyl iddo etifeddu cartref ei thaid. Mae’r holl dystiolaeth yn ei herbyn: beth ddaw o Nest?
Ganed Mary Oliver Jones yn Lerpwl yn 1858 a bu farw yn 1893. Yn ei bywyd byr ysgrifennodd nofelau ar ystod eang o bynciau, ond yn enwedig nofelau hanesyddol. Roedd yn llais bwysig yn natblygiad y nofel Gymraeg hanesyddol ac ymhlith nofelwyr benywaidd fwyaf y Gymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd hefyd yn aelod blaenllaw o’i chymuned Gymraeg yn Lerpwl, ac yn enghraifft hollbwysig o gyfraniad y diaspora Cymraeg i lenyddiaeth ein hiaith.
Ymddangosodd Nest Merfyn gyntaf ar dudalennau Cyfaill yr Aelwyd yn 1892-3. Hwyrach mai dyma un o’r straeon ditectif cynharaf yn y Gymraeg. Y gyfrol hon yw’r tro cyntaf i’r nofel ymddangos ar ffurf llyfr, a’r gyfrol gyntaf o’i heiddo hi i’w chyhoeddi ers yr 1890au.
"Mae ei gwaith yn ddarllenadwy a difyr."
—Meic Stephens
Clawr Papur, 106 o dudalennau.