Plant y Gorthrwm (Gwyneth Vaughan)
Plant y Gorthrwm (Gwyneth Vaughan)
“'Dylai mamau y wlad ofalu am fagu eu bechgyn o’u babandod gyda syniadau teilwng am eu mamau a’u chwiorydd,' ebe y pregethwr.
'Onid gwaith anodd iawn yw i fachgen barchu ei fam pan nad yw mewn uwch sefyllfa na chader neu fwrdd yn y tŷ, neu, os mynnwch, un o’r anifeiliaid oddi allan?"
Y flwyddyn yw 1868 ac am y tro cyntaf mae cyfran fawr o ddynion Cymru'n cael pleidleisio mewn etholiad. Ond mewn oes pan oedd pleidleisio'n gyhoeddus, beth fydd y canlyniadau i'r sawl sy'n bwrw pleidlais dros ryddid a chyfiawnder ac yn erbyn y drefn?
Wedi'i hysgrifennu'n wreiddiol yn 1905, Plant y Gorthrwm oedd ail nofel Gwyneth Vaughan ac hon o'i holl nofelau yw'r mwyaf gwleidyddol, a'r un sy'n dadlau gryfaf dros
bawb sy'n cael cam: boed hynny oherwydd eu daliadau, eu dosbarth cymdeithasol, eu cenedl neu eu rhywedd. Dyma un o nofelau mawr ei chyfnod yn yr iaith Gymraeg, gan awdures sy'n haeddu ei chyfri ymhlith awduron blaenaf yr iaith.
"Deil [nofelau Gwyneth Vaughan] gymhariaeth â llawer ystori a fu'n dra llwyddiannus yn Lloegr, a rhagorant y tu hwnt i gymhariaeth ar y chwedlau Saesneg am Gymru a
ysgrifennwyd gan Saeson neu Gymry Seisnig."
—T. Gwynn Jones
Clawr Papur, 328 tudalen.