Hepgor i wybodaeth llyfr
1 o 1

Y Peiriant Amser (H. G. Wells)

Y Peiriant Amser (H. G. Wells)

Pris arferol £7.99 GBP
Pris arferol Pris yn yr arwethiant £7.99 GBP
Gwerthu Dim ar ôl
Treth wedi'i chynnwys.

Eiliad yn ddiweddarach roedden ni’n dau’n wynebu ein gilydd, minnau a'r creadur bregus hwn o'r dyfodol. Daeth yn syth ataf i, a chwarddodd yn uchel yn fy wyneb. Fe'm trawyd ar unwaith gan y ffaith nad oedd awgrym o ofn ynddo o gwbl.”

Un noswaith yn Llundain tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae gŵr ffraeth a hyddysg yn estyn gwahoddiad i grŵp o’i gyfoedion fod yn dyst wrth iddo arddangos ei ddyfais anhygoel newydd: y Peiriant Amser. Gyda hwn, mae’n teithio cannoedd o filoedd o flynyddoedd i’r dyfodol ac yn cael ei hun mewn paradwys, o’r golwg. Pam felly bod popeth i’w weld mewn adfeilion? A beth sy’n llechu dan wyneb y byd rhyfedd newydd hwn?   

Nofel gyntaf Herbert George Wells, heb os, yw un o’r portreadau enwocaf o’r dyfodol mewn ffuglen, ac hyd heddiw, mae’n un o’r rhai mwyaf arswydus. Erys yn un o gerrig milltir hanes ffuglen wyddonol.

Y cyfieithiad newydd hwn gan Adam Pearce yw’r tro cyntaf i waith Wells fod ar gael yn y Gymraeg.

Clawr papur, 126 o dudalennau.

Gweld manylion llawn