Nodwedd ddiddorol ar hanes llenyddiaeth Gymraeg yw’r ffaith bod cymunedau alltud Cymry Lloegr wedi cynhyrchu rhai o’n ffigyrau llenyddol mwyaf diddorol.
Ganwyd Robert Jones ym mhlwyf Llandderfel, Sir Feirionydd (bellach yn rhan o Wynedd), yn 1824. Ni chafodd unrhyw addysg heblaw’r Ysgol Sul, ac yn ddeg oed rhedodd i ffwrdd o’i gartref, yn gyntaf i Gorwen ac yn ddiweddarach i Langollen. Gweithiodd mewn ystod o swyddi yn niwydiannau'r gogledd-ddwyrain - ffatrïoedd gan fwyaf - cyn, yn un deg naw oed, symud i Loegr: Lerpwl yn gyntaf, wedyn cyfnod yn Llundain, cyn ymsefydlu o’r diwedd yn 1850 ym Manceinion, y ddinas y byddai’n byw ynddi am weddill ei oes a’r rhan o’r byd cysylltir ef â hi yn fwy nag unrhyw un arall.
Mae’r symud parhaus yma’n awgrymu rhywbeth yn ei natur oedd yn chwilio o hyd am gyfleoedd i wella ei sefyllfa, ond ei fod hefyd yn fodlon dilyn ei liwt ei hun pan oedd gofyn. Ffaith ddiddorol amdano yw ei fod yn uniaith Gymraeg pan adawodd Cymru - bu’n rhaid iddo ddysgu’r iaith Saesneg i’w hunan, a gellir ond dychmygu’r anawsterau a’r rhagfarn y byddai wedi dioddef yn y fath alltudiaeth, er wrth y byddai cymunedau Cymraeg y dinasoedd yr aeth iddynt yn fodd iddo gael gwaith a chymorth.
Dechreuodd farddoni tua’r adeg iddo symud i Fanceinion, a daeth yn rhan o gylch llenyddol Cymraeg y ddinas. Penderfynodd Jones a’i gyd-feirdd yn y cylch i fabwysiadu enwau bröydd eu mebyd fel enwau barddol, ac o hynny ymlaen daeth Robert Jones, William Williams a John Hughes yn fwy adnabyddus fel R. J. Derfel, Creuddynfab, ac wrth gwrs, Ceiriog, sef yr enwocaf oll o feirdd Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Enillodd Derfel rai gwobrau ym mân Eisteddfodau’r 1850au ac edrychai fel bod gyrfa lenyddol lled llwyddiannus fel bardd Cymraeg o gymeriad tebyg i Ceiriog yn ymestyn o’i flaen. Fel cymaint o ffigyrau blaenllaw yn y byd Cymraeg roedd hefyd yn pregethu. Fodd bynnag, roedd gyrfa R. J. Derfel i ddilyn trywydd gwahanol iawn.
Roedd Manceinion yr 19g yn gorlifo â radicaliaeth wleidyddol, gyda’i thrigolion yn ystod y cyfnod pan oedd Derfel yno’n cynnwys ffigyrau mor enwog â Karl Marx a Friedrich Engles. Daeth dan ddylanwad y rhain ac eraill, ond - yn briodol ddigon - hwyrach mai’r dylanwad fwyaf arno oedd y Cymro Robert Owen (1771-1858), ffigwr blaenllaw yn hanes cynnar radicaliaeth. Dechreuodd ddarlithio yn Gymraeg, ac ysgrifennu rhyddiaith yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar y pynciau oedd at fryd y meddylwyr hyn: hawliau’r gweithwyr, tlodi, addysg, hawliau merched, ac ati.
Daeth yn llyfrwerthwr a chyhoeddwr, gan geisio gwneud ei fywoliaeth drwy werthu llyfrau a phamffledi Cymraeg. Daliai ati i farddoni, ond o hyn ymlaen cefnodd i bob pwrpas ar yr Eisteddfod, gan ddymuno i’w farddoniaeth gyflawni swyddogaeth wahanol, sef hyrwyddo ei ddaliadau gwleidyddol ac athronyddol. Dyma’r fath o farddoniaeth y cysylltir R. J. Derfel fwyaf â hi, mewn cerddi fel Cwyn y Gweithwyr ; Clywch, Gymry, Clywch ! a Gruffydd Llwyd :
Os gwych yw gweld anheddau hardd
Yn britho tref a gwlad,
Pa beth yw’r cytiau wneir i’r bobl,
Ond trawster a sarhad?
Pa warthrudd mwy na bod y rhai
Sy’n gwneud palasau’r llawr
Yn gorfod byw mewn gwaelach tai
Na chŵn yr Yswain mawr?
Tlodi, rhagrith, annhegwch cymdeithasol, triniaeth merched (yn enwedig y rhai a dybir eu bod yn ‘bechadurus’), hyd yn oed caethwasiaeth: daw’r rhain oll yn destun gwg Derfel. Sosialydd argyhoeddedig oedd Derfel, Comiwnydd hyd yn oed: defnyddiodd y ddau derm yn fynych, er bod ei raglen wleidyddol yn un o ddiwygio yn fwy na chwyldro. Serch hynny ar adegau mae naws wirioneddol chwyldroadol i’w ganu nad yw i’w gweld mewn bron dim barddoniaeth Cymraeg arall o’r cyfnod:
Mae dydd o ddialedd yn nesu,
Yn nesu, yn nesu o hyd;
Dydd pwyso a barnu gweithredoedd
Anghyfiawn gorthrymwyr y byd:
Dydd codi y bobloedd i fyny,
A thaflu ysbeilwyr i lawr
Dydd cosbi segurwyr diddefnydd,
A llwyddo llafurwyr yn fawr.
Nid materion economaidd yn unig oedd at fryd Derfel. Os yw’n un o arloeswyr Sosialaeth Gymreig yna mae hefyd yn un o arloeswyr Cenedlaetholdeb Cymreig. Mae’n ddiddorol ac yn arwyddocaol nad arweiniodd yr holl ddylanwadau rhyngwladol arno iddo gefnu ar y Gymraeg nac ar bwysigrwydd y wlad lle’i ganwyd Mewn cyfnod pan llawer - hyd yn oed ei charedigion - yn cwestiynu perthnasedd a gwerth yr iaith Gymraeg, dadleuodd Derfel o hyd o blaid yr iaith, gan gyplysu dyfodol yr iaith â chenedlaetholdeb gwleidyddol:
Tra syllwn ar y geiriau hyn,
Daeth sain ymchwyddol dros y bryn
A cyn y sain mi dybiwn fod
Syniadau gwlad yn ceisio dod
O rwymau trais yn rhydd;
Ac wrth glustfeinio tua’r lle
Mi glywn lais fel taran gre’
Yn bloeddio yn Gymraeg i gyd
Y geiriau glywyd gan y byd
“Cymru Fydd, Cymru Fydd!”
Yn ei ryddiaith dadleuodd o blaid addysg Gymraeg a sefydlu sefydliadau cenedlaethol gan gynnwys prifysgol a llyfrgell pan nad oedd dim un o’r pethau hyn eto’n bodoli. R. J. Derfel a fathodd y term ‘Brad y Llyfrau Gleision’ i gyfeirio at Adroddiad Ymchwilwyr Addysg 1847: hwn oedd teitl drama mewn barddoniaeth o’i eiddo a luniodd mewn ymateb i’r Adroddiad, er i’r papurau gwrthod ei chyhoeddi ar y pryd rhag ofn achosi sarhad; cyhoedded Derfel y gwaith ei hun yn 1854.
Beth bynnag am ei ddylanwadau eraill, roedd hi’n amlwg bod daliadau Sosialaidd Derfel yn deillio hefyd o’i ffydd Gristnogol. Pan symudodd i Fanceinion roedd Derfel yn pregethu gyda’r Bedyddwyr, ac ymhlith ei gerddi mae nifer hefyd o emynau, rhai ohonynt sy’n cael eu canu o hyd mewn capeli. Yn un ohonynt yn enwedig, Dragwyddol Hollalluog Iôr, mae’n cyplysu’r un neges radicalaidd yng nghyd-destun addoliant yr emyn:
Dragwyddol, hollalluog Iôr,
Creawdwr nef a llawr,
O gwrando ar ein gweddi daer
Ar ran ein byd yn awr.
Yn erbyn pob gormeswr cryf
O cymer blaid y gwan;
Darostwng ben y balch i lawr
A chod y tlawd i’r lan.
Fodd bynnag, wrth i’r ganrif fynd rhagddo dechreuodd Derfel ymbellhau o’r eglwys, ac yn ei ryddiaith ef oedd un o’r meddylwyr Cymraeg cyntaf i archwilio agnostiaeth a moeseg y tu allan i’r byd-olwg Cristnogol, er mai dim ond ambell awgrym o hyn geir yma a thraw yn ei farddoniaeth.
Fel llawer o radicaliaid, ni chafodd Derfel dderbyniad gwresog bob tro. Profodd ei siop lyfrau ym Manceinion yn fethiant, ac yn negawdau olaf y ganrif ysgrifennodd llai o farddoniaeth a llai yn y Gymraeg, er iddo ddal i gyhoeddi erthyglau yn y papurau Cymraeg, gan ddefnyddio’r ffugenw ‘Socialist Cymraeg’ yn aml.
Mae pwysigrwydd a gwerth parhaol barddoniaeth cerddi R. J. Derfel yn codi’n bennaf o’u cynnwys: mae’n sefyll i raddau helaeth y tu allan i brif ffrwd barddoniaeth Gymraeg ei gyfnod, er y mae modd gweld ei ddylanwad yn amlwg ar ffigyrau diweddarach fel T. E. Nicholas, a daeth radicaliaeth yn agwedd fwyfwy amlwg ym Marddoniaeth Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif. Gellir beirniadu barddoniaeth Derfel ar adegau am ddiffyg cynildeb, ac mae’r mwyafrif helaeth o’i gerddi ar ffurf cwpledi odledig, sy’n gallu mynd yn ailadroddus; er y gellir synhwyro ei fod yn fwriadol dymuno apelio at y boblogaeth gyffredinol a chreu cerddi a chaneuon fyddai’n apelio at weithwyr cyffredin. Mae ei gerddi orau yn ffraeth, yn uniongyrchol ac yn bwerus.
Ffigwr eithriadol ddiddorol yw R. J. Derfel, ac rydym wedi cynnwys yn ein cyfrol o’i gerddi rhagymadrodd gan D. Ben Rees, awdur Cyd-ddyheu a’i Cododd Hi: Hanes y Blaid Lafur yng Nghymru, un o haneswyr pennaf radicaliaeth Cymraeg, sy’n cyflwyno bywyd a gwaith barddonol y bardd hwn o radical.