Cwyn y Gweithwyr a Cherddi Eraill (R.J. Derfel)
Cwyn y Gweithwyr a Cherddi Eraill (R.J. Derfel)
Methu â llwytho argaeledd casglu
“Tra byddo ein gwlad o gwr i gwr
Yn eiddo arglwyddi tir,
Na chaned Cymro wladgarol gerdd,
Heb ynddi frawddeg o wir;
Yn hytrach datganer rhyfel gân,
I gasglu y Cymry ynghyd;
I ymladd â’r gelyn am y tir,
Nes ennill y wlad i gyd.”
Roedd Robert Jones Derfel (1824-1905) yn fardd, traethodydd, llyfrwerthwr a chyhoeddwr, ac fe’i cofir yn bennaf heddiw fel cenedlaetholwr cynnar ond yn anad dim fel un o arloeswyr y mudiad Sosialaidd yng Nghymru. Yn hytrach na chystadlu mewn Eisteddfodau, defnyddiodd ei farddoniaeth er mwyn amlygu gwirioneddau anodd Prydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg: tlodi, anghydraddoldeb, hawliau gweithwyr, ac agweddau at ferched.
Y detholiad hwn o’i farddoniaeth yw’r cyntaf i gael ei gyhoeddi ers dros canrif. Wedi’i gynnwys hefyd mae rhagymadrodd gan D. Ben Rees, sydd wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar dreftadaeth sosialaidd Cymru.
Clawr papur, 110 o dudalennau.
Share
