Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud (Lewis Carrol)
Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud (Lewis Carrol)
Methu â llwytho argaeledd casglu
Llysenw yw Lewis Carroll: Charles Lutwidge Dodgson oedd enw iawn yr awdur a oedd yn ddarlithydd mewn Mathemateg yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen. Cychwynnodd Dodgson y stori ar 4 Gorffennaf 1862, pan aeth ar daith mewn cwch rhwyfo ar afon Tafwys yn Rhydychen gyda'r Parchedig Robinson Duckworth, Alice Liddell (deng mlwydd oed), merch Deon Coleg Eglwys Crist, a chyda'i dwy chwaer, Lorina (tair blwydd ar ddeg oed), ac Edith (wyth mlwydd oed). Fel sy'n amlwg o'r gerdd ar ddechrau'r llyfr, gofynnodd y tair merch i Dodgson adrodd stori, ac o'i anfodd i gychwyn dechreuodd adrodd fersiwn cyntaf y stori iddynt. Ceir llawer o gyfeiriadau hanner cuddiedig i'r pump ohonynt drwy gydol testun y llyfr ei hun a gyhoeddwyd o'r diwedd yn 1865. Cynhyrchodd Selyf Roberts drosiad Cymraeg talfyredig a ffurfiol braidd yn 1953. Yn 1982, bron i ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, teimlai'r angen i'w ddisodli â throsiad llawn o'r newydd mewn arddull ystwythach. Argraffiad newydd yw hwn o gyfieithiad Roberts o 1982, wedi'i gysodi o'r newydd ac yn cynnwys lluniau John Tenniel. Wrth baratoi'r argraffiad hwn, gwnaethpwyd mân newidiadau i'r orgraff a'r gystrawen i gydymffurfio ag arferion cyfoes.
Clawr papur, 136tt gyda lluniau.
SYLWCH: Nid cynnyrch a wnaed gan Melin Bapur yw'r llyfr hwn ac yn anffodus gallwn ond ei gynnig i gwsmeriaid yn y D. U. a rhai gwledydd yn Ewrop.
Share
