Hepgor i wybodaeth llyfr
1 o 1

Atgof a Cherddi Eraill (E. Prosser Rhys)

Atgof a Cherddi Eraill (E. Prosser Rhys)

Pris arferol £7.99 GBP
Pris arferol Pris yn yr arwethiant £7.99 GBP
Gwerthu Dim ar ôl
Treth wedi'i chynnwys.

“Soniasom am y pethau ffôl na ŵyr
Ond llanciau gaffael ynddynt liw na gwres,
Y pethau a gerdd ar lanw eu gwaed fin hwyr,
A phorthi heb borthi’u blys; a’u tynnu’n nes."

Roedd Edward Prosser Rhys (1901-1945) yn fardd, newyddiadurwr a chyhoeddwr llyfrau wnaeth gyfraniad sylweddol i fywyd Cymraeg yn ystod ei fywyd cymharol fyr fel sefydlydd Gwasg Aberystwyth a’r Clwb Llyfrau Cymraeg.

Fel bardd, hwyrach y bydd yn parhau’n fwyaf adnabyddus am ei bryddest, Atgof, a enillodd iddo Goron Eisteddfod Genedlaethol 1924; cerdd a greodd gryn ddadlau oherwydd ei bod yn cynnwys trafodaethau agored o gyfathrach rywiol, gan gynnwys portread di-amwys o gyfathrach rywiol rhwng dau ddyn. Fodd bynnag, dim ond un agwedd oedd hon ar feiddgarwch barddoniaeth y ffigwr pwysig hwn.
 
Dyma’r cyhoeddiad cyntaf o farddoniaeth Prosser Rhys ers yr 1950au. Mae’r rhagair estynedig gan Gareth Evans-Jones yn cyflwyno'r bardd ac yn gosod y cerddi yn eu cyd-destun.

Clawr papur, 114 o dudalennau.

Gweld manylion llawn