Hepgor i wybodaeth llyfr
1 o 1

Bronwen (Beriah Gwynfe Evans)

Bronwen (Beriah Gwynfe Evans)

Pris arferol £12.99 GBP
Pris arferol Pris yn yr arwethiant £12.99 GBP
Gwerthu Dim ar ôl
Treth wedi'i chynnwys.

“Ond eto un gair. A ydyw y telerau hyn yr wyt ti er dy anrhydedd, Syr Frenin, yn caniatáu i ni, yn gyfyngedig i ni ein chwech, neu ynte, a awdurdodir ni i’w cludo ar flaenau ein gwaywffyn, yn ôl i’n gwersyll, ac yno i’w cyhoeddi yng wyneb haul, llygad goleuni, i bob Cymro yn ddieithriaid?”

“Gydag ond un eithriad,” ebe’r brenin.

“A’r un hwnnw?” gofynnai y Marchog.

“GLYNDŴR!” oedd yr ateb...

Mynyddoedd y Berwyn, 1400. Mae’r cadben dieflig Syr Philip Marglee wedi’i anfon gan ei arglwydd, de Grey, i feddiannu darn o dir ei gymydog. Ychydig a ŵyr neb mai’r sgarmes fechan hon fydd dechrau gwrthryfel a fydd yn llyncu’r holl wlad.

Beriah Gwynfe Evans (1848-1927) oedd un o Gymry llengar mwyaf gweithgar ei oes. Ysgrifennodd nifer fawr o nofelau yn y Gymraeg a’r Saesneg, llawer ohonynt yn portreadu digwyddiadau a chyfnodau o hanes ei wlad mewn ymgais bwriadol i efelychu yn y cyd-destun Gymreig yr hyn yr oedd Walter Scott wedi’i wneud yn yr Alban gyda’i gyfres o nofelau hanesyddol. Bronwen, sy'n dwyn yr isdeitl 'Chwedl Hanesyddol am Owain Glyndŵr', oedd ei nofel gyntaf ac mae'n bodoli mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg; y fersiwn Cymraeg yw hwn.

Clawr papur, 316 o dudalennau.

Gweld manylion llawn