Hepgor i wybodaeth llyfr
1 o 1

Bugail Geifr Lorraine (Émile Souvestre)

Bugail Geifr Lorraine (Émile Souvestre)

Pris arferol £7.99 GBP
Pris arferol Pris yn yr arwethiant £7.99 GBP
Gwerthu Dim ar ôl
Treth wedi'i chynnwys.

Cyfieithiad Cymraeg gan R. Silyn Roberts

 “Trysori’r tair ceiniog a roddasai Jeanne iddo a wnâi efe, a chadw ei chyngor yn ei gof. Hynny oedd am ei fod yntau hefyd wedi ei fagu ymhlith y gwerinos hyn na feddent ddim namyn mamwlad y dymunent ei chadw; yntau er yn fore wedi arfer caru ei bobl yn well nag ef ei hun, a gasâi â’i holl reddfau iau’r tramorwr, ac a fynnai gadw, â phris ei fywyd o bai raid, bethau hanfodol y genedl, sef y brenin, y faner, a saint gwarcheidiol Ffrainc.”

 Ffrainc, y 1420au. Mae’r Ffrancod a’r Saeson wedi bod yn brwydro dros oruchafiaeth am ddegawdau, gan droi pob cornel o’r wlad yn faes brwydr. Bugail digon di-nod yw Remy nes i farwolaeth ei dad arwain at ddarganfyddiad annisgwyl am ei orffennol ef ei hun. Gyda’i fentor, y mynach Cyrille, mae Remy’n cychwyn ar daith i hawlio’i etifeddiaeth; ar yr un pryd daw sibrydion am yr arwres newydd Jeanne D’Arc, sy’n bwriadu erlid y Saeson o’r wlad unwaith ac am byth.

 Cyhoeddwyd Bugail Geifr Lorraine, cyfieithiad Silyn o nofelig hanesyddol Emile Souvestre Le Chevrier de Lorraine, yn wreiddiol yn 1925; mae’r argraffiad newydd hwn mewn orgraff fodern yn cyflwyno’r antur gyffrous hon i ddarllenwyr o’r newydd.

Clawr papur, 96 o dudalennau.

Gweld manylion llawn