Camwri Cwm Eryr (T. Gwynn Jones)
Camwri Cwm Eryr (T. Gwynn Jones)
“Mae Cwm Eryr yn eiddo i chi drwy ewyllys yr hen Sgweiar,” meddai Lloyd, “a feder neb fynd a’r eiddo oddi arnoch chi, os nad oes—”
“Os nad oes beth?” ebe Jackson, a’i galon bron â neidio i’w safn.
“Os nad oes rhyw flaw yn ’wyllys yr hen Sgweiar, a dydi hynny ddim yn debyg.”
Wedi marwolaeth ei dad-yng-nghyfraith, Sgweiar ystâd helaeth Cwm Eryr, llwyddodd Harold Jackson drefnu i’r holl etifeddiaeth ddod i’w ddwylo ef ei hun yn hytrach na’r gwir etifedd, Arthur Wynn. Yn falch, yn ddi-hid ac yn greulon, mae Jackson yn byw bywyd bras, a’i gyfoeth enfawr yn ddiogel...
...am y tro...
Ail nofel T. Gwynn Jones, cyhoeddywd Camwri Cwm Eryr yn ddienw ar dudalennau Papur Pawb rhwng 1898-99; mae’n ymddangos yma ar ffurf cyfrol am y tro cyntaf erioed. Dyma hanes camwedd a thwyll, gyda dogn o sylwebaeth gymdeithasol am anghydraddoldeb, ac yn Harold Jackson cawn un o gnafon mwyaf dieflig ein llenyddiaeth.
“Mae’r ddeialog yn rhyfeddol o ystwyth a naturiol, a dyna un peth sy’n ei wneud yn arloeswr ym maes y nofel Gymraeg.”
—Alan Llwyd
Clawr papur, 300 tudalen.