Caniadau (John Morris-Jones)
Caniadau (John Morris-Jones)
Methu â llwytho argaeledd casglu
“Henaint ni ddaw ei hunan”;—daw ag och
Gydag ef, a chwynfan,
Ac anhunedd maith weithian,
A huno maith yn y man.
Yn rhinwedd ei waith mewn meysydd academaidd, John Morris-Jones (1864-1929) yw un o ffigurau pwysicaf hanes llenyddiaeth Gymraeg, ac roedd yn rhan allweddol o’r dadeni a welwyd mewn barddoniaeth Gymraeg ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.
Er yr ystyrir ei farddoniaeth yn llai pwysig na’i waith mewn meysydd eraill, roedd Caniadau, yr unig gyfrol o gerddi a gyhoeddodd, yn ddylanwadol iawn yn ei ddydd ac yn rhan allweddol o’i ymgyrch i wella safonau ieithyddol a barddonol ei gyd-Gymry. Mae’n cynnwys ei delynegion enwog fel ‘Cwyn y Gwynt’ ynghyd â’i englynion a’i awdlau. Roedd hefyd yn gyfieithydd medrus o farddoniaeth ieithoedd eraill ac mae’r rhain hefyd yn rhan bwysig o’r Caniadau, gan gynnwys ‘Penillion Omar Khayyâm’, enghraifft brin o gyfieithiad i’r Gymraeg o waith llenyddol o’r tu allan i Ewrop.
Clawr papur, 184 tudalen.
Share
