Ceir ac Anifeiliaid (Helle Helle)
Ceir ac Anifeiliaid (Helle Helle)
Methu â llwytho argaeledd casglu
Menyw ifanc yn lladd amser ym mhriodas dieithriaid wrth aros am y bws nesaf. Hiraeth am y gŵr a’r plant a gollodd yn llethu gwraig. Pwmpen y mae angen ei chyffeithio’n droi’n ormes ar wraig arall. Merch ifanc ar drothwy newid byd. Trobwyntiau bywyd, posibiliadau newydd. Dechrau ym mhob diwedd.
Helle Helle yw un o brif lenorion cyfoes Denmarc. Mae ei gwaith yn darlunio digwyddiadau cyffredin bob-dydd o bersbectif benywaidd. Arddull gynnil, finimalaidd sy’n ei nodweddu. Ond mae’r mân-donnau ar wyneb y llyn yn bradychu cynnwrf ar y gwaelod.
Y casgliad hwn o un-ar-bymtheg o’i straeon byrion, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2000, yw un o’r gweithiau cyntaf erioed i gael ei gyfieithu o’r Ddaneg i’r Gymraeg. Nid yw eto wedi’i gyfieithu i’r Saesneg. Mae’r cyfieithydd, Richard Crowe, yn siarad nifer o ieithoedd ac wedi gweithio fel cyfieithydd proffesiynol i Lywodraeth Cymru; hwn, fodd bynnag, yw ei gyfieithiad cyntaf o gyfrol o ryddiaith greadigol.
Clawr papur, 112 o dudalennau.
Share
