Cyswllt (Jadwiga Graboś)
Cyswllt (Jadwiga Graboś)
Methu â llwytho argaeledd casglu
Tarddodd Cyswllt o angen i siarad am bethau sy’n cael eu gwthio i ymylon bywyd cymdeithasol, o angen i chwilio am ddealltwriaeth ac i ymgynefino â phwnc anabledd. Dyma lyfr sy’n bwriadu datgelu’r emosiynau a’r diymadferthwch y mae rhieni a gofalwyr plant gydag anableddau yn eu wynebu. Gwëwyd y cerddi o gariad ac anobaith, siom, bliner, a’r grym mewnol sy’n helpu rhywun cludo baich pob diwrnod. Un nod pwysig sydd iddynt: meithrin gobaith y gall pethau fod yn well os ydyn ni’n dofi ofn arwahanrwydd.
Dyma gyfrol unigryw sy'n cyfuno celf wreiddiol gan Diana Lipa, barddoniaeth a defnydd bwriadol o wacter i greu profiad darllen bur wahanol i'r arfer.
Mae Jadwiga Graboś yn ysgrifennu cerddi, rhyddiaith a chaneuon. Ers 2019, mae wedi cyhoeddi tair chyfrol o farddoniaeth ac mae ei cherddi wedi ymddangos mewn blodeugerddi a chylchgronau llenyddol yng Ngwlad Pwyl, a chafodd rhai eu cyfieithu i Lithwaneg. Enillodd ei thrydedd gyfrol, Cyswllt, y brif wobr yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Llyfr Llenyddol Gwreiddiol Świdnica 2023. Graddiodd mewn Almaeneg a’r Gyfraith o Brifysgol Maria Curie-Skłodowska yn Lublin ac Astudiaethau Llenyddol a Chelfyddydol o’r Brifysgol Jagiellonaidd yng Nghracof. Mae hi’n byw yn Lublin ac yn gweithio yno fel athrawes ysgol uwchradd. Mae’n ymddiddori mewn theatr, ffilm, cerddoriaeth a chelfyddyd. Ar hyn o bryd, mae hi’n astudio paentio yn Academi Celfyddydau Cain Cracof. Mae ganddi bedwar o blant.
Mae Marta Listewnik yn ddarlithydd Cymraeg a llenyddiaeth Gymreig ym Mhrifysgol Adam Mickiewicz yn Poznań. Mae wedi cyfieithu pedair nofel Gymraeg i’r Bwyleg a’u cyhoeddi ers 2017. Hwn, fodd bynnag, yw ei chyfieithiad cyhoeddedig cyntaf i’r Gymraeg.
Clawr caled, 76 o dudalennau gyda darluniau lliw.
Share
