Dirgelwch Gallt y Ffrwd (E. Morgan Humphreys)
Dirgelwch Gallt y Ffrwd (E. Morgan Humphreys)
Methu â llwytho argaeledd casglu
Ac yna daeth sŵn arall, sŵn gwyliadwrus, araf, sŵn y buasai'n hawdd i ddyn oedd heb fod yn gwrando fethu ei glywed... Yr oedd ffenestr y stydi yn agor yn araf. Ac yna, tra gwrandawai, clywai sŵn rhywun yn dyfod i mewn.
"Daliwch eich dwylo i fyny!" meddai Aubrey, yn uchel, gan daflu drws y stydi yn llydan agored â'i droed a goleuo'r fflachell fawr a ddaliai yn ei law chwith. Yn ei law dde yr oedd ei refolfer yn barod i waith...
Ar ôl ei anfon i ardal dawel ar lan y môr ar drywydd carreg werthfawr a ladratwyd ar ochr arall y byd, caiff y ditectif enwog John Aubrey ei dynnu i mewn i gynllwyn cymhleth yn dilyn darganfod corff dyn lleol yn farw.
Cyn pen dim caiff ei hun yng nghanol helynt lle na all ymddiried yn neb, ac yn wynebu gelynion annelwig sy'n berffaith barod i ladd eto.
Yr ail stori am y ditectif John Aubrey, cyhoeddwyd Dirgelwch Gallt y Ffrwd yn wreiddiol yn 1938. Nofel hiraf a mwyaf uchelgeisiol ei hawdur, roedd hi'n garreg filltir yn hanes y nofel drosedd a'r nofel antur yn Gymraeg.
Clawr papur, 232 tudalen.
Share
