Enigma (Gerald Coles)
Enigma (Gerald Coles)
Methu â llwytho argaeledd casglu
"Gwrandawai’r dyn hŷn yn ddistaw heb symud fel yr aeth hithau drwy’i darganfyddiadau fesul un. Wedi hynny, roedd yn rhaid iddi ateb nifer o gwestiynau treiddgar. Er syndod Catrin ni wenodd yr uwch-ddarlithydd. Yn lle hynny roedd golwg difrifol ar ei wyneb. Yna, trodd a chodi’r ffôn.
“Meryl, Tom sy yma,” meddai wrth yr ysgrifenyddes ar ben arall y lein. “Rhaid i ni weld y Proffesor mor gyflym â phosibl..." "
Wrth astudio ecsoblaned sy’n cylchynu seren gyfagos, mae seryddwr yn gwneud darganfyddiad fydd yn trawsnewid syniadau’r byd cyfan am eu lle yn y bydysawd.
Ond os ydynt am gael atebion i’w holl gwestiynau am ZX5491c, bydd rhaid i’r ddynoliaeth ddysgu i gyd-weithio.
Daw Gerald Coles yn wreiddiol o Middlesex, ond mae wedi byw yng Nghymru ers dros 60 o flynyddoedd. Cyn ymddeol roedd yn Ymgynghorydd Meddygol yn adran Arennol Ysbyty Athrofaol Cymru, ac ers dysgu’r Gymraeg fel oedolyn mae wedi cyfrannu erthyglau ar wyddoniaeth a meddyginiaeth i’r Faner Newydd. Enigma yw ei nofel gyntaf, ac un o'r nofelau hard sci-fi cyntaf yn Gymraeg.
Clawr Papur, 222 o dudalennau.
Share
