Hepgor i wybodaeth llyfr
1 o 1

Foel yr Anifeiliaid (George Orwell)

Foel yr Anifeiliaid (George Orwell)

Pris arferol £7.99 GBP
Pris arferol Pris yn yr arwethiant £7.99 GBP
Gwerthu Dim ar ôl
Treth wedi'i chynnwys.

“Mae ngolwg i’n pylu,” meddai hi o’r diwedd. “Hyd yn oed pan oeddwn yn eboles fedrwn i ddim darllen be sy ’di’i sgwennu yna. Ond i nhyb i mae golwg wahanol ar y wal ’na. Ydi’r Saith Gorchymyn ’run fath ag y bydden nhw, Eban?”
Am unwaith cydsyniodd Eban i dorri ei reol a darllenodd iddi be oedd wedi’i sgwennu ar y wal. 
Bellach doedd dim byd yno ond un Gorchymyn. Dyma’i fyrdwn:

MAE POB ANIFAIL YN GYDRADD OND MAE RHAI YN FWY CYDRADD NA’I GILYDD.

Roedd George Orwell, sef ffugenw Eric Arthur Blair (1903-1950) yn newyddiadurwr, yn fardd ac yn draethodydd ond fe’i hadnabyddir orau heddiw fel un o nofelwyr mwyaf dylanwadol 
yr ugeinfed ganrif. Foel yr Anifeiliaid, sef Animal Farm, oedd ei nofel olaf ond un. Yn alegori sy’n dychanu sefydlu’r Undeb Sofietaidd, mae’n portreadu llygredd dyn a’r ffordd y gall y 
syniadau mwyaf aruchel gael eu meddiannu at ddibenion totalitaraidd. Ystyrir hi’n un o nofelau pwysicaf yr ugeinfed ganrif; y cyfieithiad hwn gan Anna Gruffydd, yw’r tro cyntaf iddi fod ar gael yn y Gymraeg.  

Clawr Papur, 108 o dudalennau.

Gweld manylion llawn