Gorchest Gwilym Bevan (T. Gwynn Jones)
Gorchest Gwilym Bevan (T. Gwynn Jones)
“Roedd llais torcalonnus Mrs. Tomos, a’i geiriau gwylltion, ‘Dacw fo’r dyn starfiodd fy ngŵr i; i lawr â fo!’ yn swnio yn eu clustiau’n barhaus...”
Mae iselder Gwilym Bevan wedi'i drechu, ac mae ar fin taflu’i hun i ddyfroedd y Tafwys pan gaiff ei achub gan ddieithryn, a chael ail gyfle ar fywyd. Dychwela i Gymru a chael gwaith yn y chwarel; a diolch i’w ddysg a’i hyfedredd caiff ei benodi’n arweinydd gan ei gyd-weithwyr. Ond buan iawn ymddengys cymylau anghydfod a gormes ar y gorwel.
Bu trydedd nofel T. Gwynn Jones yn garreg filltir yn hanes y nofel Gymraeg, ac ymhlith y nofelau Cymreig cynharaf i drafod anghydfod diwydiannol ac iechyd meddwl.
“Golygfa lle mae’r haearn yn mynd i enaid ydyw.”
—Cymru
“Nofel ag iddi neges gymdeithasol a gwleidyddol... nofel sosialaidd sy’n ymgyrchu o blaid hawliau’r gweithwyr... Caffaeliad mawr i dwf a datblygiad y nofel Gymraeg oedd nofelau cynnar T. Gwynn Jones.”
—Alan Llwyd
Sylwer: Dyma fersiwn Cymraeg (gwreiddiol) y nofel. Os yn chwilio am y cyfieithiad Saesneg, gweler The Great Deed of Gwilym Bevan.
Clawr papur, 182 o dudalennau.