Hepgor i wybodaeth llyfr
1 o 1

Gŵr y Dolau (W. Llewelyn Williams)

Gŵr y Dolau (W. Llewelyn Williams)

Pris arferol £8.99 GBP
Pris arferol Pris yn yr arwethiant £8.99 GBP
Gwerthu Dim ar ôl
Treth wedi'i chynnwys.

Pe gwelsai bardd neu arlunydd hi ben bore yn rhedeg allan i’r clos â phadellaid o geirch yn ei llaw—a’r gwynt nwyfus yn chwarae â’i gwallt ac yn codi gwrid i’w hwyneb... a'i gweld yn bwydo â llaw dirion y fronrhuddyn a’r aderyn y to, ac yn ysgwyd ei ffedog yn wyneb rhyw hwyad daeog neu iâr reibus a’i gyrru ar ffo i’w lle eu hun: pe gwelsai bardd neu arlunydd hyn, meddaf, coronai hi ar unwaith yn Frenhines yr Adar. Ond nid oedd bardd neu arlunydd yn y Gelli, ac ni thynnodd sylw neb ond Leisa wrth fwydo’r ieir a’r adar. Ac ni ddywedodd Leisa ond hyn: 
“Dir safio ni! Garw mor ffond o ffowls mae Miss Bowen.”

Mae'r gantores ddiwylliedig Gladys Bowen yn dychwelyd o Lundain i aros gyda'i modryb yn Sir Gaerfyrddin. Yno mae'n cwrdd â chymeriadau rhyfedd a hoffus bro Llanelwid: Nat y Gof direidus, Leisa'r llaethwraig, Robin y prydydd hunan-bwysig a Mr. Rowlands y ciwrat chwithig. Ond gan un gŵr yn unig mae calon Miss Bowen...

Yn wleidydd, newyddiadurwr, cyfreithiwr a hanesydd, 
William Llewelyn Williams oedd un o nofelwyr Cymraeg mwyaf talentog ei gyfnod. Comedi cymdeithasol yw'r nofel hon ac mae'n fynegiant llawn o gariad yr awdur at ei wlad a'i fro enedigol.

Clawr papur, 183 tudalen.

Gweld manylion llawn