Hepgor i wybodaeth llyfr
1 o 1

Gwyn ap Nudd and Other Poems (Elfed)

Gwyn ap Nudd and Other Poems (Elfed)

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol Pris yn yr arwethiant £9.99 GBP
Gostyngwyd Dim ar ôl
Treth wedi'i chynnwys.


Ti, sy’n arfer mynd fel nos
Heb ysgwyd clychau grug y rhos;
Ti sy’n chwerthin ar y bryn,
O dan ledrith cwmwl gwyn;
Ti, sy’n mynd â’r teithiwr prudd
O gors i gors, Gwyn ap Nudd—
I ble’r ei di’n wyllt dy wedd,
A naws rhyfel ar dy gledd?

Elfed, sef Howell Elvet Lewis (1860–1953) oedd un o feirdd Cymraeg mwyaf poblogaidd a dylanwadol degawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn feirniad eisteddfodol ac yn gystadleuydd llwyddiannus, enillodd ddwy Goron a Chadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe welir yn ei waith, yn enwedig mewn cerddi fel ‘Gwyn ap Nudd’ sy’n ymgorffori mytholeg Gymreig, flaenffrwyth ‘dadeni’ Rhamantaidd yr ugeinfed ganrif, ac mae’n parhau hefyd yn un o emynwyr mwyaf poblogaidd yr iaith.

Y casgliad hwn yw’r un cyntaf o’i waith i’w gyhoeddi ers ei oes ei hun, ac mae’n cynnwys detholiad sylweddol o’i emynau a’i delynegion, ei englynion, a’r bryddest o arwrgerdd ‘Llywelyn ein Llyw Olaf’. 

Clawr papur, 172tudalen.

Gweld manylion llawn