Gwynfyd (Ian Parri)
Gwynfyd (Ian Parri)
"Ma' pob trefn ar 'i gwanaf pan fo 'na wrthdaro oddi fewn. Ma'n rhaid inni ddeffro'r genedl. Ma'r Orsedd yn eu twyllo. Ffug i gyd yw'r Chwyldro Cynganeddol, rhyw orchudd er mwyn 'yn ca'l ni gyd i'w col. A nawr yw'n cyfle ni. Nawr ne' fyth. Newyddiadurwyr 'yn ni i fod 'n'defe? Rhaid inni weithredu er mwyn i bobol ca'l byw mewn rhyddid unweth 'to. Sytha'r asgwrn cefn 'na da ti."
Yr Ynys, dwy genhedlaeth ers y Chwyldro cynganeddol. Fel pawb arall, mae Maldwyn Tanat yn gwingo dan orthrwm yr Orsedd, ond yn mwynhau bywyd cymharol gyfforddus-hyd nes y daw'r cyfle un diwrnod iddo droi'n arwr digon cyndyn...
Dyma nofel gyntaf Ian Parri. Cyfuniad unigryw o ddystopia ac abswrdiaeth, dyma weledigaeth hollol wahanol o'r traddodiad llenyddol Cymraeg sydd yn ddoniol, yn arswydus ac yn heriol yn ei thro.
"Dystopia dychrynllyd yw thema Gwynfyd, ac mae'r byd wedi ei saernïo'n ofalus. Gyda phob cam, mae'r plot yn datgelu realaeth ofnadwy... Mae Gwynfyd yn nofel ddifyr a dychrynllyd, ac Ian Parri yn awdur sy'n gwybod sut i dynnu darllenydd i mewn i fyd stori."
-Manon Steffan Ros
Clawr papur, 173 tudalen.