Hepgor i wybodaeth llyfr
1 o 1

Llanllenorion (Mary Burdett-Jones)

Llanllenorion (Mary Burdett-Jones)

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol £9.99 GBP Pris yn yr arwethiant £9.99 GBP
Gostyngwyd Dim ar ôl
Treth wedi'i chynnwys.

Nofel yw hon am gyhoeddwr o Lundain sy’n symud i Gymru i brofi dyfnder ei wreiddiau. 

Mewn tref brifysgol ar lan y môr mae’n ceisio cyngor ystod o gymeriadau: yr ysgolhaig sydd wedi ymroi i’w waith ar draul agweddau eraill ar ei fywyd; y wraig sydd wedi aberthu llawer 
yn ei thro wrth ddod yn gymar iddo; yr athro sydd bellach yn ddeallusyn cyhoeddus; yr actores y mae yntau’n briod iddo; a’r arlunydd y mae ei gwaith i’w weld yn nhai’r dref. 

Ond beth yw union natur y berthynas rhwng y bobl hyn?

Nofel gyntaf Mary-Burdett Jones yw hon. Dyma waith heriol, arloesol, wedi’i gweu o’r presennol, y gorffennol a’r dyfodol, ac o freuddwydion a barddoniaeth. 

‘Dyma waith sylweddol iawn. Mae’n tynnu’r darllenydd yn ei flaen oherwydd yr annisgwyl ddieithr yn y rhediad tra amrywiol.’
- Bobi Jones

Clawr papur, 166 o dudalennau.

Gweld manylion llawn