Lona (T. Gwynn Jones)
Lona (T. Gwynn Jones)
“Dewines, duwies, drychiolaeth, pa beth? Rhywbeth ond geneth gyffredin o gig a gwaed. Bwriodd ei hud drosto hyd na wyddai ef pa beth i'w feddwl amdani. Agorodd ffenestr ei henaid iddo, a dangosodd beth o'r trysor ysblennydd oedd yno, heb yn wybod i neb ond iddi hi ei hun, ac heb ei bod hithau hefyd, o ran hynny, yn gwybod fod ynddo ddim oedd mor brin a rhyfeddol.”
Newydd symud i ardal y Minfor yw Merfyn Owen pan, ar siawns, mae’n cwrdd â Lona O’Neil, y Wyddeles brydferth sy'n byw ar gyrion cymdeithas y gymdogaeth. Ond beth fydd goblygiadau eu carwriaeth i safle Merfyn yn y dref - a beth yw cysylltiad teulu Lona â dirgelwch cefndir Merfyn ei hun?
Cafodd Lona ei ysbrydoli gan Kathleen ni Houlihan gan W. B. Yeats, ond mae'n nofel hollol wreiddiol yn y Gymraeg. Ar gael yma fel cyfrol am y tro cyntaf ers dros canrif, ac mewn iaith ac orgraff ddiwygiedig, Lona oedd ffefryn T. Gwynn Jones o blith ei nofelau ac hyd heddiw mae’n glasur yn yr iaith.
“Stori serch yw Lona, ac mae'n nofel ddarllenadwy hyd y dydd hwn. Mae'r ddeialog a'r naratif yn ystwyth ac yn naturiol."
—Alan Llwyd
Clawr papur, 196 o dudalennau.