Hepgor i wybodaeth llyfr
1 o 1

Madam Wen (W. D. Owen)

Madam Wen (W. D. Owen)

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol Pris yn yr arwethiant £9.99 GBP
Gwerthu Dim ar ôl
Treth wedi'i chynnwys.

Teimlai Morys fod y goleuni’n ymadael, a nos yn dyfod i’w fywyd ar drawiad llygad. “Yr ydych wedi eich dyweddïo?” meddai, yn fwy wrtho’i hun nac wrthi hi.

 “Wedi fy nyweddïo, fy nghâr, nid i ddyn ond i adduned. Pan oedd fy annwyl dad yn marw mewn tlodi, gwneuthum adduned y buaswn yn mynnu ennill yn ôl y tir a ladratawyd oddi arnom gan ein gelynion, ac nid ydyw’r adduned eto wedi ei chyflawni.”

Sir Fôn, y ddeunawfed ganrif. Mae’r grŵp o ladron penffordd yn ymosod ar yr Yswain ifanc Morys William a dwyn swm nid bach o arian oddi arno. Caiff wybod mai pennaeth y lladron lleol yw Madam Wen, cymeriad y mae dirgelwch yn ei chanlyn i bobman.  Yn y cyfamser, wrth ymweld ag ystâd y Penrhyn mae Morys yn cwrdd ag Einir Wyn, merch brydferth sydd wedi tyngu llw y bydd yn adennill y tiroedd a ddygwyd oddi ar ei thad.

 Pwy yw Madam Wen? Menyw, neu ddrychiolaeth? Lleidr, neu arwres? Person o gig a gwaed, neu’n ddim byd ond sibrwd ar goll yn sŵn y tonnau?

Nofel W. D. Owen am ladron penffordd, dirgelwch, cleddyfa, smyglwyr, gwisgoedd ffug, Jacobiniaid, môr-ladron a serch yw nofel antur Gymraeg orau ei oes ac yn Madam Wen ei hun cawn un o gymeriadau mwyaf hynaws llenyddiaeth Gymraeg. Addaswyd y nofel yn ffilm ar S4C yn 1982. Mae’r argraffiad newydd hwn, y cyntaf ers 99 o flynyddoedd, yn cyflwyno’r antur i ddarllenwyr o’r newydd mewn orgraff ddiwygiedig.

 "Mr. Owen provides us with a good yarn, for which, in this all too sombre world, we owe him thanks. This is the kind of Welsh book we want: a breathless tale that insists upon being real."

—Liverpool Daily Post

Clawr Papur, 202 o dudalennau.

Gweld manylion llawn