Hepgor i wybodaeth llyfr
1 o 1

Marged (T. Glynne Davies)

Marged (T. Glynne Davies)

Pris arferol £14.99 GBP
Pris arferol Pris yn yr arwethiant £14.99 GBP
Gostyngwyd Dim ar ôl
Treth wedi'i chynnwys.

“Fel hyn yr oedd bywyd wedi bod: fel hyn y byddai am hanner canrif wedyn nes i’r Rhyfel Mawr roi sgytiad i bawb a phopeth a throi’r dreflan fach unwaith eto yn rhan o’r byd mawr o’i chwmpas."

Pan aiff Marged Rowland at yr hen Sera Cesi i gael dweud ei ffortiwn, ychydig a ŵyr y graddau y bydd darogan y wrach honno’n rhagfynegi gweddill ei bywyd – ei pherthynas gyda’i gŵr, Ifan, a ffawd ei phlant, Gruff, Lora a Robat-jon.

Rhamant, trasiedi, rhyfela – mae'r nofel epig hon, un o'r mwyaf erioed yn Gymraeg, yn gyforiog ohonynt, ond mae yma hefyd ysgafnder a dychan, ac yn fwy na dim mae yma hanes: hanes Llanrwst ar droad yr ugeinfed ganrif, hanes chwalfa gymdeithasol y Rhyfel Byd Cyntaf, a hanes y werin Gymraeg mewn cyfnod cythryblus.

Marged oedd ail nofel y llenor a’r newyddiadurwr adnabyddus T. Glynne Davies (1926-1988), ac fe’i croesawyd adeg ei chyhoeddi’r tro cyntaf yn 1974 fel datblygiad o bwys hanesyddol i’r nofel Gymraeg. Cyflwyna’r argraffiad hwn olygiad cwbl newydd gan Peredur Glyn – ŵyr yr awdur – i gynulleidfa newydd ei mwynhau.

Clawr papur, 486 tudalen.

Gweld manylion llawn