Profedigaethau Enoc Huws (Daniel Owen)
Profedigaethau Enoc Huws (Daniel Owen)
Methu â llwytho argaeledd casglu
“Mi a wn ei fod yn bwnc tyner a llednais i’w grybwyll – mi a wn mai mwy hyfryd i’r teimlad yw gwrando ar leisiwr da yn canu, ‘Cymru Lân, gwlad y gân,’ a rhoi encore iddo, ac iddo yntau drachefn roddi i ni ‘Hen wlad y menig gwynion.’ Ond ynfytyn a fyddai y dyn a dybiai ei fod wedi cael holl hanes Cymru yn y ddwy gân.”
Er gwaetha’i wedd barchus, mae lwc Capten Richard Trefor yn dirwyn i ben, a’i ddyledion yn tyfu. Ei unig obaith yw cychwyn menter newydd, a chael hyd i rywrai sy’n ddigon cyfoethog – ac yn ddigon diniwed – i fuddsoddi ynddi. Tybed a fydd y siopwr parchus a chefnog Enoc Huws yn gwneud y tro? Ag yntau dros ei ben a’i glustiau mewn cariad gyda Susi, merch y Capten, beth fydd yn darfod gyntaf – cyfoeth Enoc, amynedd Susi, neu ddrygioni Capten Trefor?
Daniel Owen (1836-1895) oedd nofelydd mawr gyntaf yr iaith Gymraeg, ac yn Enoc Huws gwelir ef ar anterth ei ddoniau dychanol a llenyddol, yn cynhyrchu un o uchafbwyntiau cydnabyddedig llenyddiaeth Gymraeg oes Fictoria. Comedi cymdeithasol, mae hiwmor a ffraethineb y nofel hon wedi’u plethu’n feistrolgar â sylwebaeth graff am ragrith sy’n parhau’n berthnasol. Mae’r argraffiad newydd hwn heb ei dalfyrru.
Clawr Papur, 376 tudalen.
Share
