Rheinallt ap Gruffydd (Isaac Foulkes)
Rheinallt ap Gruffydd (Isaac Foulkes)
Methu â llwytho argaeledd casglu
“Un ymhen un; dyn dwy lath ymhen dyn dwy lath, ac mi a ymladdaf hyd y diferyn olaf o waed sydd yn fy nghalon!”
Sir y Fflint, y bymthegfed ganrif. Mae Ynys Prydain ar ganol Rhyfeloedd y Rhosynnau. Mae’r Cymry sy’n croesi’r ffin i Loegr yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd yno, ac yn dioddef gormes cyfreithiau mympwyol a chreulon.
Pan gaiff y bardd adnabyddus Lewys Glyn Cothi ei gosbi am briodi Saesnes, mae’n gofyn cymorth gan yr uchelwr o Gymro, Rheinallt ap Gruffydd, marchog ac arwr, i ddial...
Roedd Isaac Foulkes (1836-1904) yn un o wŷr llenyddol gweithgar y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y Gymraeg: ef oedd sefydlydd a golygydd y Cymro, cofiannydd Ceiriog a Daniel Owen, a cyhoeddwr nifer fawr o lyfrau. Roedd hefyd yn nofelydd, ac mae Rheinallt ap Gruffydd yn enghraifft cynnar yn y Gymraeg o Ramant Hanesyddol, genre fyddai’n dod yn boblogaidd iawn ymhlith nofelwyr yr oes.
Clawr papur, 116 o dudalennau.
Share
