Hepgor i wybodaeth llyfr
1 o 1

Selma Merbaum: Cerddi 1939-1941

Selma Merbaum: Cerddi 1939-1941

Pris arferol £7.99 GBP
Pris arferol Pris yn yr arwethiant £7.99 GBP
Gwerthu Dim ar ôl
Treth wedi'i chynnwys.

“Rwyf am fyw...
Rwyf am chwerthin...
ac ymladd a charu a chasáu...
Nid wyf am farw. Na.”

Ganed Selma Merbaum yn Czernowitz (heddiw Chernivtsi yn Wcráin) ym 1924. Bu farw o deiffws ym 1942 yng ngwersyll llafur Mikhailowka a reolwyd gan yr SS. Medrai Selma Almaeneg, Iddeweg a Rwmaneg, ond yn Almaeneg ysgrifennodd ei cherddi. 

Ar ôl cyhoeddi Blütenlese (‘Cynhaeaf Blodau’) yn Israel ym 1976, dechreuwyd cymryd diddordeb yn ei cherddi yn yr Almaen, ac fe’i dilynwyd gan gyfieithiadau i Iddeweg, Hebraeg, Saesneg, Iseldireg, Sbaeneg, Wcraineg, ac nawr i’r Gymraeg.

Mae’r cyfieithiad Cymraeg hwn o’r casgliad cyflawn gan Mary Burdett-Jones yn gosod y cerddi yn y drefn y cawsant eu hysgrifennu fel bod modd olrhain datblygiad llais barddonol y bardd.

Clawr Papur, 100 tudalen

Gweld manylion llawn