Shinani'n Siarad (Eve Ensler)
Shinani'n Siarad (Eve Ensler)
Methu â llwytho argaeledd casglu
Pan ysgrifennwyd a llwyfannwyd The Vagina Monologues Eve Ensler am y tro cyntaf yn 1996, fe’i croesawyd fel un o’r dramâu mwyaf beiddgar a thrawiadol am ddegawdau. Yn seiliedig ar gyfres o gyfweliadau a gynhaliwyd gyda nifer o ferched, mae’r gyfres hon o ymsonau - sydd yn eu tro’n ddoniol, yn flysig, yn frawychus, neu’n dorcalonnus - yn ddathliad o rywioldeb merched yn ogystal ag yn ergyd wleidyddol ffeministaidd yn erbyn trais.
Cyfieithwyd y ddrama i’r Gymraeg gan Sharon Morgan a’i llwyfannu yn 2004 gyda chymeradwyaeth Eve, dan y teitl Shinani'n Siarad, a mynd â hi ar daith o amgylch Cymru; ond dim ond nawr, ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae hi’n cael ei chyhoeddi am y tro cyntaf un.
“Theatr ar ei orau - sioe bwysig, digyfaddawd a doniol tu hwnt.” - Ani Glass
Am bob llyfr a werthir, bydd cyfraniad o £1.00 yn cael ei wneud at Gymorth i Ferched Cymru (Rhif Elusen Cofrestredig 1140962).
Clawr papur 6"x9", 112 o dudalennau gyda lluniau.
Share
