Straeon y Pentan (Daniel Owen)
Straeon y Pentan (Daniel Owen)
“Wyst di be,” ebe Wil wrthyf un diwrnod, “mi leiciwn farw yr un funud â’r hen Burgess yma.”
“Pam hynny?” ebe fi.
“Am fod ganddo gymin’ i’w aped amdano,” ebe Wil, “a thra y bydden nhw yn trin ei gês o mi fedrwn snecio i’r nefoedd heb i neb sylwi.”
Daniel Owen, heb os, oedd nofelydd mwyaf adnabyddus y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Gymraeg. Profodd ei nofelau, gan gynnwys Rhys Lewis ac Enoc Huws, yn fwy poblogaidd gyda beirniaid a’r cyhoedd na rhai unrhyw nofelydd Cymraeg cyn hynny. Codwyd cofgolofn iddo yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, y dref honno yr oedd mor hoff ohoni a lle bu fyw ar hyd ei oes.
Cyhoeddwyd Straeon y Pentan gyntaf yn 1895 a hon oedd cyfrol olaf yr awdur, eto, dyma un o’r casgliadau cyntaf o straeon byrion i gael ei gyhoeddi fel cyfrol bwrpasol yn yr iaith Gymraeg, os nad y cyntaf.
Straeon digrif, straeon rhamantus, straeon ysbryd, portreadau hoffus, a straeon am anifeiliaid: mae ystod y pedwar ar bymtheg o straeon yn eithriadol o eang ac yn dangos diddordeb yr awdur yn holl ystod cymeriadau ei gymdeithas a’i oes.
Clawr papur, 114 o dudalennau.