Syniadau ar y Môr (Gwenffrwd)
Syniadau ar y Môr (Gwenffrwd)
Methu â llwytho argaeledd casglu
“...pan hulio nos o gystudd
Dros ein llwybrau cnawdol cu,
Pan na fedd daear un llawenydd,
Trown ein trem i’r nefoedd fry.”
Brodor o Sir y Fflint, bu farw’r bardd Gwenffrwd, sef Thomas Lloyd Jones (1810-1834) yn alltud yn ninas Mobile, Alabama, o’r dwymyn felen pan nad oedd ond yn dair ar hugain oed.
Cyhoeddodd hanner cant ac un o gerddi yn ystod ei fywyd byr, sydd wedi eu casglu ynghyd yn y gyfrol hon. Er mor ifanc oedd pan fu farw roedd yn fardd wrth anian a ystyrid yn athrylith gan ei gyfoeswyr. Arloeswr yn y mesurau rhydd ac un o’r beirdd cyntaf i ysgrifennu Soned yn Gymraeg., roedd arno eisiau ysgogi chwyldro mewn barddoniaeth Gymraeg.
Mae ei gerddi yn trafod testunau megis byrhoedledd bywyd a grym dychymyg dyn, a gwelir ynddynt flaenffrwyth y traddodiad telynegol a ddatblygodd yn nwylo beirdd diweddarach. Dyma’r cyhoeddiad cyntaf erioed o gyfrol gyflawn o’i farddoniaeth.
Clawr papur, 128 tudalen.
Share
