Hepgor i wybodaeth llyfr
1 o 1

Tal ar Ben Bodran a Cherddi Eraill (Talhaiarn)

Tal ar Ben Bodran a Cherddi Eraill (Talhaiarn)

Pris arferol £11.99 GBP
Pris arferol Pris yn yr arwethiant £11.99 GBP
Gwerthu Dim ar ôl
Treth wedi'i chynnwys.

"Mae rhai yn brysur iawn yn casglu golud, 
Drwy lafur blin a chwys y corff a'r 'mennydd: 
Pentyrru llwyth o gyfoeth yw eu gwynfyd, 
Gan ychwanegu stôr o'r môr a'r mynydd; 
Gofalu a phryderu drwy eu bywyd, 
Yn ofni colled ac yn caru cynnydd; 
Ond teimlant pan yn hen, a hurt, a charbwl, 
Mai gwagedd ac oferedd yw y cwbl."

Cymerodd Talhaiarn, sef John Jones (1810-1869), ei enw barddol o'i dref enedigol, sef Llanfair Talhaearn yn y Sir Ddinbych hanesyddol. Roedd yn un o feirdd Cymraeg mwyaf poblogaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond hefyd un o'r rhai mwyaf dadleuol oherwydd ei fywyd afradlon, ei bersonoliaeth cwerylgar a'i wleidyddiaeth.

Roedd yn ddylanwad mawr nid yn unig ar ei gyfoeswyr ond ar feirdd telynegol yr ugeinfed ganrif. Mae'r detholiad hwn o'i gerddi yn cynnwys nifer o'i ganeuon, sef y gweithiau yr oedd mwyaf adnabyddus amdanynt yn ystod ei ddydd, ond hefyd ei englynion, ei gyfieithiadau o waith Burns a Byron, a'r cyhoeddiad cyflawn cyntaf mewn un llyfr o'i gampwaith hir Tal ar Ben Bodran, un o weithiau llenyddol mwyaf trawiadol y Gymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Clawr papur, 246 o dudalennau.

Gweld manylion llawn