Hepgor i wybodaeth llyfr
1 o 1

William Jones (T. Rowland Hughes)

William Jones (T. Rowland Hughes)

Pris arferol £12.99 GBP
Pris arferol Pris yn yr arwethiant £12.99 GBP
Gwerthu Dim ar ôl
Treth wedi'i chynnwys.

"O, Northman, ifa?"
"Ia, o Lan-y-graig... Sir Gaernarfon."
"Shwd ma' petha'n dishgwl yn y chwareli 'na nawr?"
"Y?"
"Shwd ma' petha'n mynd yn y chwareli lan 'na?"
"O, go lew, wir."
"Gwd, w. Ma'n dwym 'eddi'."
"Y?"
"Hoil twym?"
"Ydi, wir." Hyderai William Jones iddo roi'r ateb cywir.

Wedi alaru o'r diwedd ar fywyd gyda Leusa, ei wraig ddiog ac anserchus, mae'r chwarelwr addfwyn William Jones yn ei heglu hi i'r 'Sowth' i fyw at ei chwaer a'i theulu ym Mryn Glo. Ond mae'r dirwasgiad yn effeithio o hyd ar y cwm, ac nid oes gwaith i'w gael yn unman. Fodd bynnag, er na chaiff hyd i waith, caiff William Jones hyd i lawer o bethau pwysicach.

Comedi cymdeithasol â themâu dwys am berthyn a chyfrifoldeb, yr ail o nofelau T. Rowland Hughes oedd William Jones, ac un o'r mwyaf poblogaidd. Fel pob un ohonynt mae'n dwyn elfennau o fywyd Hughes ei hun, y tro yma fel gŵr o fro chwareli'r gogledd a symudodd i fyw i gymoedd y de.

Clawr papur, 346 o dudalennau.

Gweld manylion llawn