Hepgor i wybodaeth llyfr
1 o 1

Woyzeck (Georg Büchner)

Woyzeck (Georg Büchner)

Pris arferol £7.99 GBP
Pris arferol Pris yn yr arwethiant £7.99 GBP
Gwerthu Dim ar ôl
Treth wedi'i chynnwys.

Cyfieithiad Cymraeg gan Sarah Pogoda a Huw Jones

"Foneddigion, rydan ni'n ystyried cwestiwn y berthynas rhwng gwrthych a goddrych. Os ydan ni cymryd dim ond un peth mae hunan-gadarnhad organig y dwyfol yn amlygu ei hun ynddo, o uchel safbwynt, ac ystyried ei berthynas â gofod, â'r ddaear, â'r planedau. Foneddigion, os dwi'n taflu'r gath hon o'r ffenestr: sut bydd y creadur yma'n ymddwyn tuag at y centrum gravititis yn ôl ei natur ei hun?"

Mae milwr eiddigeddus - sy'n ychwanegu at ei incwm drwy ganiatau i ddoctor gynnal arbrofion meddygol arno - yn gwylio'i gariad yn ofalus. Drama amwys, aflonyddol sy'n gwahodd dehongliadau lu, Woyzeck yw yn un o ddramâu mwyaf adnabyddus a dylanwadol Ewrop gyda pherfformiadau, addasiadau a chyfieithiadau di-rif ar draws y byd. Mae'r gwaith hefyd wedi'i droi yn sawl ffilm, ballet ac opera.

Bu farw Büchner yn 23 oed cyn gorffen y gwaith. Does neb yn gwybod beth oedd trefn gywir y golygfeydd ac, mae gwahanol fersiynau o rhai darnau, sydd wedi arwain at addasiadau a dehongliadau hynod o amrywiol o'r ddrama.

Cydnabyddir Georg Büchner bellach fel un o fawrion y byd llenyddol ac mae prif wobr lenyddol yr Almaen, y Georg-Büchner-Preis, wedi'i henwi ar ei ôl.

Clawr papur, 90 o dudalennau.

Gweld manylion llawn